Llyfr Josua 4
1Sefydlu y deuddeg carreg yn Gilgal. A phan ddarfu i’r holl genedl fyned trwy yr Iorddonen, yr Arglwydd a lefarodd wrth Josua, gan ddywedyd,
2Cymmerwch i chwi ddeuddengwr o’r bobl, un gwr o bob llwyth;
3A gorchymynwch iddynt, gan ddywedyd, Cymmerwch i chwi oddi yma, o ganol yr Iorddonen, o’r fan y mae traed yr offeiriaid yn sefyll yn daclus, ddeuddeg o gerrig; a dygwch hwynt drosodd gyd â chwi, a gosodwch hwynt yn y llety y llettŷoch ynddo heno.
4Yna Josua a alwodd am y deuddengwr a barottoisai efe o feibion Israel, un gwr o bob llwyth:
5A dywedodd Josua wrthynt, Ewch trosodd o flaen arch yr Arglwydd eich Duw, trwy ganol yr Iorddonen; a chodwch i chwi bob un ei garreg ar ei ysgwydd, yn ol rhifedi llwythau meibion Israel:
6Fel y byddo hyn yn arwydd yn eich mysg chwi, pan ofyno eich meibion chwi yn ol hyn, gan ddywedyd, Beth y mae y cerrig hyn yn ei arwyddoccâu i chwi?
7Yna y dywedwch wrthynt, Dorri ymaith ddyfroedd yr Iorddonen o flaen arch cyfammod yr Arglwydd; pan oedd hi yn myned trwy yr Iorddonen, dyfroedd yr Iorddonen a dorrwyd ymaith. Y mae y cerrig hyn yn goffadwriaeth i feibion Israel byth.
8A meibion Israel a wnaethant felly fel y gorchymynasai Josua; ac a gymmerasant ddeuddeg carreg o ganol yr Iorddonen, fel y llefarasai yr Arglwydd wrth Josua, yn ol rhifedi llwythau meibion Israel, ac a’u dygasant drosodd gyd â hwynt i’r llety, ac a’u cyfleasant yno.
9A Josua a osododd i fynu ddeuddeg carreg y’nghanol yr Iorddonen, yn y lle yr oedd traed yr offeiriaid, oedd yn dwyn arch y cyfammod, yn sefyll: ac y maent yno hyd y dydd hwn.
10¶ A’r offeiriaid, y rhai oedd yn dwyn yr arch, a safasant y’nghanol yr Iorddonen, nes gorphen pob peth a orchymynasai yr Arglwydd i Josua ei lefaru wrth y bobl, yn ol yr hyn oll a orchymynasai Moses wrth Josua: a’r bobl a frysiasant, ac a aethant drosodd.
11A phan ddarfu i’r holl bobl fyned drosodd, yna arch yr Ar- glwydd a aeth drosodd, a’r offeiriaid, y’ngŵydd y bobl.
12Meibion Reuben hefyd, a meibion Gad, a hanner llwyth Manasseh, a aethant drosodd yn arfogion o flaen meibion Israel, fel y llefarasai Moses wrthynt:
13Ynghylch deugain mil, yn arfogion i ryfel, a aethant drosodd o flaen yr Arglwydd i ryfel, i rosydd Jericho.
14¶ Y dwthwn hwnnw yr Arglwydd a fawrhaodd Josua yng ngolwg holl Israel; a hwy a’i hofnasant ef, fel yr ofnasant Moses, holl ddyddiau ei einioes.
15A’r Arglwydd a lefarodd wrth Josua, gan ddywedyd,
16Gorchymyn i’r offeiriaid, sydd yn dwyn arch y dystiolaeth, ddyfod o honynt i fynu allan o’r Iorddonen.
17Am hynny Josua a orchymynodd i’r offeiriaid, gan ddywedyd, Deuwch i fynu allan o’r Iorddonen.
18A phan ddaeth yr offeiriaid, oedd yn dwyn arch cyfammod yr Arglwydd, i fynu o ganol yr Iorddonen, a sengi o wadnau traed yr offeiriaid ar y sychdir; yna dyfroedd yr Iorddonen a ddychwelasant i’w lle, ac a aethant, megis cynt, dros ei holl geulennydd.
19¶ A’r bobl a ddaethant i fynu o’r Iorddonen y degfed dydd o’r mis cyntaf; ac a wersyllasant yn Gilgal, yn eithaf tu dwyrain Jericho.
20¶ A’r deuddeg carreg hynny, y rhai a ddygasent o’r Iorddonen, a sefydlodd Josua yn Gilgal.
21Ac efe a lefarodd wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Pan ofyno eich meibion chwi yn ol hyn i’w tadau, gan ddywedyd, Beth yw y cerrig hyn?
22Yna yr hysbyswch i’ch meibion, gan ddywedyd, Israel a ddaeth trwy yr Iorddonen hon ar dir sych.
23Canys yr Arglwydd eich Duw chwi a sychodd ddyfroedd yr Iorddonen o’ch blaen chwi, nes i chwi fyned drwodd; megis y gwnaeth yr Arglwydd eich Duw i’r môr coch, yr hwn a sychodd efe o’n blaen ni, nes i ni fyned drwodd:
24Fel yr adnabyddo holl bobloedd y ddaear law yr Arglwydd, mai nerthol yw; fel yr ofnoch yr Arglwydd eich Duw bob amser.