Llyfr Josua 5:13
¶ A phan oedd Josua wrth Jericho, yna efe a ddyrchafodd ei lygaid, ac a edrychodd; ac wele wr yn sefyll gyferbyn âg ef, a’i gleddyf noeth yn ei law. A Josua a aeth atto ef, ac a ddywedodd wrtho, Ai gyd â ni yr ydwyt ti, ai gyd â’n gwrthwynebwyr?
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 18:2Ac efe a gododd ei lygaid, ac a edrychodd, ac wele driwŷr yn sefyll ger ei fron: a phan eu gwelodd, efe a redodd o ddrws y babell i’w cyfarfod hwynt, ac a ymgrymmodd tu a’r ddaear,
Genesis 33:1yn prynu maes yn Salem, ac yn adeiladu allor, a’i henwi El-Elohe-Israel. A Jacob a ddyrchafodd ei lygaid, ac a edrychodd; ac wele Esau yn dyfod, a phedwar cant o wŷr gyd âg ef: ac efe a rannodd y plant at Lea, ac at Rahel, ac at y ddwy law-forwyn.
Exodus 23:23O herwydd fy angel a â o’th flaen di, ac a’th ddwg di i mewn at yr Amoriaid, a’r Hethiaid, a’r Phereziaid, a’r Canaaneaid, yr Hefiaid, a’r Jebusiaid; a mi a’u difethaf hwynt.
Numbers 22:31A’r Arglwydd a agorodd lygaid Balaam; ac efe a welodd angel yr Arglwydd yn sefyll ar y ffordd, a’i gleddyf noeth yn ei law: ac efe a ogwyddodd ei ben, ac a ymgrymmodd ar ei wyneb.
Judges 13:8Yna Manoa a weddiodd ar yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, Atolwg, fy Arglwydd, gad i ŵr Duw yr hwn a anfonaist, ddyfod eilwaith atom ni, a dysgu i ni beth a wnelom i’r bachgen a enir. º
Judges 13:22A Manoa a ddywedodd wrth ei wraig, Gan farw y byddwn feirw; canys l;welsom DDUW. º