Llyfr Josua 5
1Angel yn ymddangos i Josua. Pan glybu holl frenhinoedd yr Amoriaid, y rhai oedd o’r tu hwnt i’r Iorddonen tu a’r gorllewin, a holl frenhinoedd y Canaaneaid, y rhai oedd wrth y môr, sychu o’r Arglwydd ddyfroedd yr Iorddonen o flaen meibion Israel, nes eu myned hwy drwodd; yna y digalonnwyd hwynt, fel nad oedd yspryd mwyach ynddynt, rhag ofn meibion Israel.
2¶ Y pryd hwnnw y dywedodd yr Arglwydd wrth Josua, Gwna i ti gyllyll llymion, ac enwaeda ar feibion Israel drachefn yr ail waith.
3A Josua a wnaeth iddo gyllyll llymion, ac a enwaedodd ar feibion Israel, ym mryn y blaen-grwyn.
4A dyma yr achos a wnaeth i Josua enwaedu: Yr holl bobl, sef y gwrrywiaid y rhai a ddaethent o’r Aipht, yr holl ryfelwyr, a fuasent feirw yn yr anialwch ar y ffordd, wedi eu dyfod allan o’r Aipht.
5Canys yr holl bobl a’r a ddaethent allan, oedd enwaededig; ond y bobl oll y rhai a anesid yn yr anialwch, ar y ffordd, wedi eu dyfod hwy allan o’r Aipht, nid enwaedasent arnynt.
6Canys deugain mlynedd y rhodiasai meibion Israel yn yr anialwch, nes darfod yr holl bobl o’r rhyfelwyr a ddaethent o’r Aipht, y rhai ni wrandawsent ar lef yr Arglwydd: y rhai y tyngasai yr Arglwydd wrthynt, na ddangosai efe iddynt y wlad a dyngasai yr Arglwydd wrth eu tadau y rhoddai efe i ni; sef gwlad yn llifeirio o laeth a mêl.
7A Josua a enwaedodd ar eu meibion hwy, y rhai a gododd yn eu lle hwynt: canys dïenwaededig oeddynt hwy, am nad enwaedasid arnynt ar y ffordd.
8A phan ddarfu enwaedu ar yr holl bobl; yna yr arhosasant yn eu hunlle, yn y gwersyll, nes eu hiachâu.
9A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Josua, Heddyw y treiglais ymaith waradwydd yr Aipht oddi arnoch: am hynny efe a alwodd enw y lle hwnnw Gilgal, hyd y dydd heddyw.
10¶ A meibion Israel a wersyllasant yn Gilgal: a hwy a gynhaliasant y Pasc, ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis, brydnawn, yn rhosydd Jericho.
11A hwy a fwyttasant o hen ŷd y wlad, drannoeth wedi y Pasc, fara croyw, a chras- ŷd, o fewn corph y dydd hwnnw.
12¶ A’r manna a beidiodd drannoeth wedi iddynt fwytta o hen ŷd y wlad; a manna ni chafodd meibion Israel mwyach, eithr bwyttasant o gynnyrch gwlad y Canaaneaid y flwyddyn honno.
13¶ A phan oedd Josua wrth Jericho, yna efe a ddyrchafodd ei lygaid, ac a edrychodd; ac wele wr yn sefyll gyferbyn âg ef, a’i gleddyf noeth yn ei law. A Josua a aeth atto ef, ac a ddywedodd wrtho, Ai gyd â ni yr ydwyt ti, ai gyd â’n gwrthwynebwyr?
14Dywedodd yntau, Nag ê; eithr yn dywysog llu yr Arglwydd yn awr y deuthum. A Josua a syrthiodd i lawr ar ei wyneb, ac a addolodd; ac a ddywedodd wrtho ef, Beth y mae fy Arglwydd yn ei ddywedyd wrth ei was?
15A thywysog llu yr Arglwydd a ddywedodd wrth Josua, Dattod dy esgidiau oddi am dy draed: canys y lle yr wyt ti yn sefyll arno, sydd sanctaidd. A Josua a wnaeth felly.