Llyfr Josua 6
1Melldithio adeiladwr Jericho. A Jericho oedd gauedig a gwarchaëedig, o herwydd meibion Israel: nid oedd neb yn myned allan, nac yn dyfod i mewn.
2A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Josua, Gwel, rhoddais yn dy law di Jericho a’i brenhin, gwŷr grymmus o nerth.
3A chwi a amgylchwch y ddinas, chwi ryfelwyr oll, gan fyned o amgylch y ddinas un waith: gwnewch felly chwe diwrnod.
4A dyged saith o offeiriaid saith o udgyrn o gyrn hyrddod o flaen yr arch: a’r seithfed dydd yr amgylchwch y ddinas saith waith; a lleisied yr offeiriaid â’r udgyrn.
5A phan ganer yn hirllaes â chorn yr hwrdd, a phan glywoch sain yr udgorn, bloeddied yr holl bobl â bloedd uchel: a syrth mur y ddinas dani hi, ac eled y bobl i fynu bawb ar ei gyfer.
6¶ A Josua mab Nun a alwodd yr offeiriaid, ac a ddywedodd wrthynt, Codwch arch y cyfammod, a dyged saith o offeiriaid saith o udgyrn o gyrn hyrddod o flaen arch yr Arglwydd.
7Ac efe a ddywedodd wrth y bobl, Cerddwch, ac amgylchwch y ddinas; a’r hwn sydd arfog, eled o flaen arch yr Arglwydd.
8¶ A phan ddywedodd Josua wrth y bobl, yna y saith offeiriad, y rhai oedd yn dwyn y saith udgorn o gyrn hyrddod, a gerddasant o flaen yr Arglwydd, ac a leisiasant â’r udgyrn: ac arch cyfammod yr Arglwydd oedd yn myned ar eu hol hwynt.
9¶ A’r rhai arfog oedd yn myned o flaen yr offeiriaid oedd yn lleisio â’r udgyrn; a’r fyddin olaf oedd yn myned ar ol yr arch, a’r offeiriaid yn myned rhagddynt, ac yn lleisio â’r udgyrn.
10A Josua a orchymynasai i’r bobl, gan ddywedyd, Na floeddiwch, ac na edwch glywed eich llais, ac nac eled gair allan o’ch genau, hyd y dydd y dywedwyf wrthych, Bloeddiwch; yna y bloeddiwch.
11Felly arch yr Arglwydd a amgylchodd y ddinas, gan fyned o’ i hamgylch un waith: a daethant i’r gwersyll, a lletyasant yn y gwersyll.
12¶ A Josua a gyfododd yn fore; a’r offeiriaid a ddygasant arch yr Arglwydd.
13A’r saith offeiriad, yn dwyn saith o udgyrn o gyrn hyrddod o flaen arch yr Arglwydd, oeddynt yn myned dan gerdded, ac yn lleisio â’r udgyrn: a’r rhai arfog oedd yn myned o’u blaen hwynt: a’r fyddin olaf oedd yn myned ar ol arch yr Arglwydd, a’r offeiriaid yn myned rhagddynt, ac yn lleisio â’r udgyrn.
14Felly yr amgylchynasant y ddinas un waith yr ail ddydd; a dychwelasant i’r gwersyll: fel hyn y gwnaethant chwe diwrnod.
15Ac ar y seithfed dydd y cyfodasant yn fore ar godiad y wawr, ac yr amgylchasant y ddinas y modd hwnnw, saith waith: yn unig y dwthwn hwnnw yr amgylchasant y ddinas seithwaith.
16A phan leisiodd yr offeiriaid yn eu hudgyrn y seithfed waith, yna Josua a ddywedodd wrth y bobl, Bloeddiwch; canys rhoddodd yr Arglwydd y ddinas i chwi.
17¶ A’r ddinas fydd yn ddïofryd-beth, hi, a’r hyn oll sydd ynddi, i’r Arglwydd: yn unig Rahab y butteinwraig fydd byw, hi a chwbl ag sydd gyd â hi yn tŷ; canys hi a guddiodd y cenhadau a anfonasom ni.
18Ac ymgedwch chwithau oddi wrth y dïofryd-beth, rhag eich gwneuthur eich hun yn ddïofryd-beth, os cymmerwch o’r dïofryd-beth; felly y gwnaech wersyll Israel yn ddïofryd-beth, ac y trallodech hi.
19Ond yr holl arian a’r aur, a’r llestri pres a haiarn, fyddant gyssegredig i’r Arglwydd: deled y rhai hynny i mewn i drysor yr Arglwydd.
20¶ A bloeddiodd y bobl, pan leisiasant â’r udgyrn. A phan glybu y bobl lais yr udgyrn, yna y bobl a waeddasant â bloedd uchel; a’r mur a syrthiodd i lawr oddi tanodd. Felly y bobl a aethant i fynu i’r ddinas, pob un ar ei gyfer, ac a ennillasant y ddinas.
21A hwy a ddifrodasant yr hyn oll oedd yn y ddinas, yn wr ac yn wraig, yn fachgen ac yn henafgwr, yn eidion, ac yn ddafad, ac yn asyn, â min y cleddyf.
22¶ A Josua a ddywedodd wrth y ddau wr a fuasai yn edrych ansawdd y wlad, Ewch i dŷ y butteinwraig, a dygwch allan oddi yno y wraig, a’r hyn oll sydd iddi, fel y tyngasoch wrthi.
23Felly y llangciau a fuasai yn edrych ansawdd y wlad, a aethant i mewn, ac a ddygasant allan Rahab, a’i thad, a’i mam, a’i brodyr, a chwbl a’r a feddai hi: dygasant allan hefyd ei holl dylwyth hi, a gosodasant hwynt o’r tu allan i wersyll Israel.
24A llosgasant y ddinas â thân, a’r hyn oll oedd ynddi: yn unig yr arian a’r aur, a’r llestri pres a haiarn, a roddasant hwy yn nhrysor yr Arglwydd.
25A Josua a gadwodd yn fyw Rahab y butteinwraig, a thylwyth ei thad, a’r hyn oll oedd ganddi; a hi a drigodd ym mysg Israel hyd y dydd hwn: am iddi guddio y cenhadau a anfonasai Josua i chwilio Jericho.
26¶ A Josua a’ u tynghedodd hwy y pryd hwnnw, gan ddywedyd, Melldigedig ger bron yr Arglwydd fyddo y gwr a gyfyd ac a adeilado y ddinas hon Jericho: yn ei gyntaf-anedig y seilia efe hi, ac yn ei fab ieuangaf y gesyd efe ei phyrth hi.
27Felly yr Arglwydd oedd gyd â Josua; ac aeth ei glod ef trwy yr holl wlad.