Llyfr Josua 7:21
Pan welais ym mysg yr yspail fantell Babilonig dêg, a dau càn sicl o arian, ac un llafn aur o ddeg sicl a deugain ei bwys; yna y chwennychais hwynt, ac a’u cymmerais: ac wele hwy yn guddiedig yn y ddaear y’nghanol fy mhabell, a’r arian danynt.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 6:2Weled o feibion Duw ferched dynion mai teg oeddynt hwy; a hwy a gymmerasant iddynt wragedd o’r rhai oll a ddewisasant.
Genesis 34:27Meibion Jacob a ddaethant ar lladdedigion, ac a yspeiliasant y ddinas, am halogi o honynt eu chwaer hwynt.
Deuteronomy 7:25Llosg ddelwau cerfiedig eu duwiau hwynt yn tân: na chwennych na’r arian na’r aur a fyddo arnynt, i’w cymmeryd i ti; rhag dy faglu âg ef: oblegid ffieidd-dra i’r Arglwydd dy Dduw ydyw.
2 Samuel 11:6A Dafydd a anfonodd at Joab, gan ddywedyd, Danfon ataf fi Ureias yr Hethiad. A Joab a anfonodd Ureias at Dafydd. º
2 Kings 5:20Ond Gehasi, gwas Eliseus gŵr Duw, a ddywedodd, Wele, fy meistr a arbedodd Naaman y Syriad hwn, heb gymryd o’i law ef yr hyn a ddygasai efe: fel mai byw yr ARGLWYDD, mi a redaf ar ei ôl ef, ac a gymeraf ryw beth ganddo ef.
Job 31:1Myfi a wneuthum amod â’m llygaid; paham gan hynny y meddyliwn am forwyn?