Llyfr Josua 7
1ei ddinystrio ef a’r hyn oll oedd iddo, yn nyffryn Achor. Ond meibion Israel a wnaethant gamwedd am y dïofryd-beth: canys Achan mab Carmi, mab Zabdi, mab Zerah, o lwyth Judah, a gymmerodd o’r dïofryd-beth: ac ennynodd digllonedd yr Arglwydd yn erbyn meibion Israel.
2A Josua a anfonodd wŷr o Jericho i Ai, yr hon sydd wrth Bethafen, o du y dwyrain i Bethel, ac a lefarodd wrthynt, gan ddywedyd, Ewch i fynu, ac edrychwch y wlad. A’r gwŷr a aethant i fynu, ac a edrychasant ansawdd Ai.
3A hwy a ddychwelasant at Josua, ac a ddywedasant wrtho, Nac eled yr holl bobl i fynu; ond ynghylch dwy fil o wŷr, neu dair mil o wŷr, a ânt i fynu, ac a darawant Ai: na phoenwch yr holl bobl yno; canys ychydig ydynt hwy.
4Felly fe a aeth o’r bobl i fynu yno ynghylch tair mil o wŷr; a hwy a ffoisant o flaen gwŷr Ai.
5A gwŷr Ai a darawsant ynghylch un gwr ar bymtheg ar hugain o honynt; ac a’u hymlidiasant o flaen y porth hyd Sebarim, a tharawsant hwynt yn y goriwaered: am hynny y toddodd calonnau y bobl, ac yr aethant fel dwfr.
6¶ A Josua a rwygodd ei ddillad, ac a syrthiodd i lawr ar ei wyneb o flaen arch yr Arglwydd, hyd yr hwyr, efe a henuriaid Israel, ac a ddodasant lwch ar eu pennau.
7A dywedodd Josua, Ah, ah, O Arglwydd Ior, i ba beth y dygaist y bobl yma dros yr Iorddonen, i’n rhoddi ni yn llaw yr Amoriaid, i’n difetha? O na buasem foddlawn, ac na thrigasem tu hwnt i’r Iorddonen!
8O Arglwydd, beth a ddywedaf, pan dry Israel ei warr o flaen ei elynion!
9Canys y Canaaneaid, a holl drigolion y wlad, a glywant, ac a’n hamgylchynant, ac a dorrant ymaith ein henw oddi ar y ddaear: a pha beth a wnei i’th enw mawr?
10¶ A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Josua, Cyfod; paham yr ydwyt yn gorwedd fel hyn ar dy wyneb?
11Israel a bechodd, a throseddasant fy nghyfammod a orchymynais iddynt: cymmerasant hefyd o’r dïofryd-beth, ïe, lladrattasant, a gwadasant; gosodasant hefyd hynny ym mysg eu dodrefn eu hun.
12Am hynny ni ddichon meibion Israel sefyll yn wyneb eu gelynion, eithr troant eu gwarr o flaen eu gelynion; am eu bod yn ysgymmunbeth: ni byddaf mwyach gyd â chwi, oni ddifethwch yr ysgymmunbeth o’ch mysg.
13Cyfod, sancteiddia y bobl, a dywed, Ymsancteiddiwch erbyn y fory: canys fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel; Dïofryd-beth sydd yn dy blith di, O Israel: ni elli sefyll yn wyneb dy elynion, nes tynnu ymaith y dïofryd-beth o’ch mysg.
14Am hynny nesêwch y bore wrth eich llwythau: a’r llwyth a ddalio yr Arglwydd, nesâed bob yn deulu; a’r teulu a ddalio yr Arglwydd, nesâed bob yn dŷ; a’r tŷ a ddalio yr Arglwydd, nesâed bob yn wr.
15A’r hwn a ddèlir a’r dïofryd-beth ganddo, a losgir â thân, efe ac oll sydd ganddo: o herwydd iddo droseddu cyfammod yr Arglwydd, ac o herwydd iddo wneuthur ynfydrwydd yn Israel.
16¶ Felly Josua a gyfododd yn fore, ac a ddug Israel wrth eu llwythau: a llwyth Judah a ddaliwyd.
17Ac efe a ddynesodd deulu Judah, a daliwyd teulu y Zarhiaid: ac efe a ddynesodd deulu y Zarhiaid bob yn wr, a daliwyd Zabdi:
18Ac efe a ddynesodd ei dŷaid ef bob yn wr; a daliwyd Achan mab Carmi, mab Zabdi, mab Zerah, o lwyth Judah.
19A Josua a ddywedodd wrth Achan, Fy mab, attolwg, dyro ogoniant i Arglwydd Dduw Israel, a chyffesa iddo; a mynega yn awr i mi beth a wnaethost: na chela oddi wrthyf.
20Ac Achan a attebodd Josua, ac a ddywedodd, Yn wir myfi a bechais yn erbyn Arglwydd Dduw Israel; canys fel hyn ac fel hyn y gwneuthum.
21Pan welais ym mysg yr yspail fantell Babilonig dêg, a dau càn sicl o arian, ac un llafn aur o ddeg sicl a deugain ei bwys; yna y chwennychais hwynt, ac a’u cymmerais: ac wele hwy yn guddiedig yn y ddaear y’nghanol fy mhabell, a’r arian danynt.
22¶ Yna Josua a anfonodd genhadau; a hwy a redasant i’r babell: ac wele hwynt yn guddiedig yn ei babell ef, a’r arian danynt.
23Am hynny hwy a’u cymmerasant o ganol y babell, ac a’u dygasant at Josua, ac at holl feibion Israel; ac a’u gosodasant hwy o flaen yr Arglwydd.
24A Josua a gymmerth Achan mab Zerah, a’r arian, a’r fantell, a’r llafn aur, ei feibion hefyd, a’i ferched, a’i wartheg, a’i asynod, ei ddefaid hefyd, a’i babell, a’r hyn oll a feddai efe: a holl Israel gyd âg ef a’u dygasant hwynt i ddyffryn Achor.
25A Josua a ddywedodd, Am i ti ein blino ni, yr Arglwydd a’th flina dithau y dydd hwn. A holl Israel a’ i llabyddiasant ef â meini, ac a’u llosgasant hwy â than, wedi eu llabyddio â meini.
26A chodasant arno ef garnedd fawr o gerrig hyd y dydd hwn. Felly y dychwelodd yr Arglwydd oddi wrth lid ei ddigofaint. Am hynny y gelwir enw y fan honno Dyffryn Achor, hyd y dydd hwn.