Llyfr y Barnwyr 2:16
Eto yr ARGLWYDD a gododd farnwyr, y rhai a’u hachubodd hwynt o law eu hanrheithwyr.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Judges 3:15Yna meibion Israel a lefasant ar yr ARGLWYDD: a’r ARGLWYDD a gododd achubwr iddynt; sef Ehwd mab Gera, fab Jemini, gŵr llawchwith: a meibion Israel a anfonasant anrheg gydag ef i Eglon brenin Moab.
Judges 4:5Ac yr oedd hi yn trigo dan balmwydden Debora, rhwng Rama a Bethel, ym mynydd Effraim: a meibion Israel a ddeuent i fyny ati hi am farn.
Judges 10:1A ar ôl Abimelech, y cyfododd i waredu Israel, Tola, mab Pua, mab Dodo, gŵr o Issachar; ac efe oedd yn trigo yn Samir ym mynydd Effraim. º
Ruth 1:1A bydd, yn y dyddiau yr oedd y brawdwyr yn barnu, fod newyn yn y wlad: a gŵr o Bethlehem Jwda a aeth i ymdeithio yng ngwlad Moab, efe a’i wraig, a’i ddau fab.
1 Samuel 14:48Cynullodd lu hefyd, a thrawodd Amalec; ac a waredodd Israel o law ei anrheithwyr. º
Nehemiah 9:27Am hynny ti a’u rhoddaist hwynt yn llaw eu gorthrymwyr, y rhai a’u cystuddiasant: ac yn amser eu cyfyngdra, pan waeddasant arnat, a’u gwrandewaist hwynt o’r nefoedd, ac yn ôl dy aml dosturiaethau rhoddaist iddynt achubwyr, y rhai a’u hachubasant o law eu gwrthwynebwyr.