Llyfr y Barnwyr 2:17
Ond ni wrandawent chwaith ar eu barnwyr; eithr puteiniasant ar ôl duwiau dieithr, ac ymgrymasant iddynt: ciliasant yn ebrwydd o’r ffordd y rhodiasai eu tadau hwynt ynddi, gan wrando ar orchmynion yr ARGLWYDD, ond ni wnaethant hwy felly.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
16Eto yr ARGLWYDD a gododd farnwyr, y rhai a’u hachubodd hwynt o law eu hanrheithwyr.
Cross References
Exodus 34:15Rhag i ti wneuthur cyfammod â phreswylwyr y tir; ac iddynt butteinio ar ol eu duwiau, ac aberthu i’w duwiau, a’th alw di, ac i tithau fwytta o’u haberth;
Deuteronomy 9:12A dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Cyfod, dos oddi yma i waered yn fuan: canys ymlygrodd dy bobl, y rhai a ddygaist allan o’r Aipht: ciliasant yn ebrwydd o’r ffordd a orchymynais iddynt; gwnaethant iddynt eu hun ddelw dawdd.
Deuteronomy 31:16¶ A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Wele, ti a orweddi gyd â’th dadau; a’r bobl yma a gyfyd, ac a butteiniant ar ol duwiau dïeithriaid y tir y maent yn myned i mewn iddo, ac a’m gwrthyd i, ac a dyrr fy nghyfammod a wneuthum âg ef.
Joshua 24:24A’r bobl a ddywedasant wrth Josua, Yr Arglwydd ein Duw a wasanaethwn, ac ar ei lais ef y gwrandâwn.
Judges 2:7A’r bobl a wasanaethasant yr AR¬GLWYDD holl ddyddiau Josua, a holl ddyddiau yr henuriaid y rhai a fu fyw ar ôl Josua, y rhai a welsent holl fawrwaith yr ARGLWYDD, yr hwn a wnaethai efe er Israel.
1 Samuel 8:5Ac a ddywedasant wrtho ef, Wele, ti a heneiddiaist, a’th feibion ni rodiant yn dy ffyrdd di: yn awr gosod arnom ni frenin i’n barnu, megis yr holl genhedloedd. º