Llyfr y Barnwyr 4:9
A hi a ddywedodd, Gan fyned yr af gyda thi: eto ni bydd gogoniant i ti yn y daith yr wyt yn myned iddi; canys yn llaw gwraig y gwerth yr ARGLWYDD Sisera. A Debora a gyfododd, ac a aeth gyda Barac i Cedes.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
8A Barac a ddywedodd wrthi, Od ei di gyda mi, minnau a af; ac onid ei gyda mi, nid af.
Cross References
Judges 4:17Ond Sisera a ffodd ar ei draed i babell Jael, gwraig Heber y Cenead: canys yr oedd heddwch rhwng Jabia brenin Hasor a thŷ Heber y Cenead.
Judges 9:53A rhyw wraig a daflodd ddarn o. faen mehn ar ben Abimelech, ac a ddrylliodd ei benglog ef. º
1 Samuel 2:30Am hynny medd ARGLWYDD DDUW Israel, Gan ddywedyd y dywedais, Dy dŷ di a thŷ dy dad a rodiant o’m blaen i byth: eithr yn awr medd yr ARGLWYDD, Pell fydd hynny oddi wrthyf fi; canys fy anrhydeddwyr a anrhydeddaf fi, a’m dirmygwyr a ddirmygir.
2 Chronicles 26:18A hwy a safasant yn erbyn Usseia y brenin, ac a ddywedasant wrtho, Ni pherthyn i ti, Usseia, arogldarthu i’r ARGLWYDD, ond i’r offeiriaid meibion Aaron, y rhai a gysegrwyd i arogldarthu: dos allan o’r cysegr; canys ti a droseddaist, ac ni bydd hyn i ti yn ogoniant oddi wrth yr ARGLWYDD DDUW.