2 Chronicles 26:18
A hwy a safasant yn erbyn Usseia y brenin, ac a ddywedasant wrtho, Ni pherthyn i ti, Usseia, arogldarthu i’r ARGLWYDD, ond i’r offeiriaid meibion Aaron, y rhai a gysegrwyd i arogldarthu: dos allan o’r cysegr; canys ti a droseddaist, ac ni bydd hyn i ti yn ogoniant oddi wrth yr ARGLWYDD DDUW.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 28:1Gwisgoedd meibion Aaron. A chymmer Aaron dy frawd attat, a’i feibion gyd âg ef, o blith meibion Israel, i offeiriadu i mi; sef Aaron, Nadab ac Abihu, Eleazar ac Ithamar, meibion Aaron.
Numbers 16:39A chymmerodd Eleazar yr offeiriad y thusserau pres, â’r rhai yr offrymmasai y gwŷr a losgasid; ac estynwyd hwynt yn gaead i’r allor:
Numbers 18:7Tithau a’th feibion gyd â thi a gedwch eich offeiriadaeth; ynghylch pob peth a berthyn i’r allor, ac o fewn y llèn wahan, y gwasanaethwch: yn wasanaeth rhodd y rhodd ais eich offeiriadaeth i chwi; a’r dïeithr a ddelo yn agos, a leddir.
1 Samuel 2:30Am hynny medd ARGLWYDD DDUW Israel, Gan ddywedyd y dywedais, Dy dŷ di a thŷ dy dad a rodiant o’m blaen i byth: eithr yn awr medd yr ARGLWYDD, Pell fydd hynny oddi wrthyf fi; canys fy anrhydeddwyr a anrhydeddaf fi, a’m dirmygwyr a ddirmygir.
2 Chronicles 19:2A Jehu mab Hanani y gweledydd, a aeth o’i flaen ef, ac a ddywedodd wrth y brenin Jehosaffat, Ai cynorthwyo yr annuwiol, a charu y rhai oedd yn casau yr ARGLWYDD, a wneit ti? am hyn digofaint oddi wrth yr ARGLWYDD sydd arnat ti.
Jeremiah 13:18Dywed wrth y brenin a’r frenhines, Ymostyngwch, eisteddwch i lawr: canys disgynnodd eich pendefigaeth, sef coron eich anrhydedd.