Llyfr y Barnwyr 7:12
A’r Midianiaid, a’r Amaleciaid, a holl feibion y dwyrain, oedd yn gorwedd yn y dyffryn fel locustiaid o amldra; a’u camelod oedd heb rif, fel y tywod sydd ar fin y môr o amldra.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Judges 6:3A phan heuasai Israel, yna Midian a ddaeth i fyny, ac Amalec, a meibion y dwyrain; hwy a ddaethant i fyny yn eu herbyn hwy:
Judges 6:33Yna y Midianiaid oll, a’r Amaleciaid, a meibion y dwyrain, a gasglwyd ynghyd, ac a aethant drosodd, ac a wersyllasant yn nyffryn Jesreel.
1 Samuel 13:5A’r Philistiaid a ymgynullasant i ymladd ag Israel, deng mil ar hugain o gerbydau, a chwe mil o wŷr meirch, a phobl eraiil cyn amied a’r tywod sydd ar fin y môr. A hwy a ddaethant i fyny, ac a wersyllasant ym Michmas, o du y dwyrain i Bethafen. º
1 Kings 20:27A meibion Israel a gyfrifwyd, ac oeddynt oll yn bresennol, ac a aethant i’w cyfarfod hwynt: a meibion Israel a wersyllasant ar eu cyfer hwynt, fel dwy ddiadell fechan o eifr; a’r Syriaid oedd ŷd llenwi’r wlad. º