Llyfr y Barnwyr 7:14
A’i gyfaill a atebodd ac a ddywedodd, Nid yw hyn ddim ond cleddyf Gedeon mab Joas, gŵr o Israel: Duw a roddodd Midian a’i holl fyddin yn ei law ef.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 15:14Y bobloedd a glywant, ac a ofnant: dolur a ddeil breswylwyr Palestina.
Numbers 23:5A gosododd yr Arglwydd air y’ngenau Balaam; ac a ddywedodd, Dychwel at Balac, a dywed fel hyn.
Numbers 24:10¶ Ac ennynodd dig Balac yn erbyn Balaam; ac efe a darawodd ei ddwylaw ynghyd. Dywedodd Balac hefyd wrth Balaam, I regu fy ngelynion y’th gyrchais; ac wele, ti gan fendithio a’ u bendithiaist y tair gwaith hyn.
Joshua 2:24A dywedasant wrth Josua, Yn ddïau yr Arglwydd a roddodd yr holl wlad yn ein dwylaw ni; canys holl drigolion y wlad a ddigalonasant rhag ein hofn ni.
Judges 3:28Ac efe a ddywedodd wrthynt, Canlynwch fi: canys yr ARGLWYDD a roddodd eich gelynion chwi, sef Moab, yn eich llaw chwi. A hwy a aethant i waered ar ei ôl ef, ac a enillasant rydau yr Iorddonen tua Moab, ac ni adawsant i neb fyned drwodd.
2 Kings 7:6Canys yr ARGLWYDD a barasai i wersyll y Syriaid glywed trwst cerbydau, a thrwst meirch, trwst llu mawr: a hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Wele, brenin Israel a gyflogodd i’n herbyn ni frenhinoedd yr Hethiaid, a brenhinoedd yr Aifft, i ddyfod arnom ni.