Llyfr Numeri 24:10
¶ Ac ennynodd dig Balac yn erbyn Balaam; ac efe a darawodd ei ddwylaw ynghyd. Dywedodd Balac hefyd wrth Balaam, I regu fy ngelynion y’th gyrchais; ac wele, ti gan fendithio a’ u bendithiaist y tair gwaith hyn.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Numbers 22:11Wele bobl wedi dyfod allan o’r Aipht, ac yn gorchuddio wyneb y ddaear: yr awr hon tyred, rhega hwynt i mi; felly ond odid y gallaf ryfela â hwynt, a’u gyrru allan.
Numbers 23:11A dywedodd Balac wrth Balaam, Beth a wnaethost i mi? I regi fy ngelynion y’th gymmerais; ac wele, gan fendithio ti a’ u bendithiaist.
Deuteronomy 23:6Na chais eu heddwch hwynt, na’u daioni hwynt, dy holl ddyddiau byth.
Joshua 24:10Ond ni fynnwn i wrandaw ar Balaam; am hynny gan fendithio y bendithiodd efe chwi: felly y gwaredais chwi o’i law ef.
Job 27:23Curant eu dwylo arno, ac a’i hysiant allan o’i le.
Ezekiel 21:17Minnau hefyd a drawaf y naill law yn y llall, ac a lonyddaf fy llid: myfi yr ARGLWYDD a'i lleferais.