The Bible Software
Llyfr Lefiticus · Beibl (1620)

Llyfr Lefiticus 1

1A’r Argllwydd a alwodd ar Moses, ac a lefarodd wrtho o babell y cyfarfod, gan ddywedyd,

2Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Pan ddygo dyn o honoch offrwm i’r Arglwydd, o anifail, sef o’r eidionau, neu o’r praidd, yr offrym­mwch eich offrwm.

3Os poeth-offrwm o eidion fydd ei offrwm ef, offrymmed ef yn wrryw perffeith-gwbl; a dyged ef o’i ewyllys ei hun i ddrws pabell y cyfarfod, ger bron yr Arglwydd.

4A gosoded ei law ar ben y poeth-offrwm, ac fe a’i cymmerir ef yn gymmer­adwy ganddo, i wneuthur cymmod drosto.

5Lladded hefyd yr eidion ger bron yr Arglwydd; a dyged meibion Aaron, yr offeir­iaid, y gwaed, a thaenell­ant y gwaed o amgylch ar yr allor, yr hon sydd wrth ddrws pabell y cyfarfod.

6A blinged y poeth-offrwm, a thorred ef yn ei ddarnau.

7A rhodded meibion Aaron yr offeiriad dân ar yr allor, a gosodant goed mewn trefn ar y tân.

8A gosoded meibion Aaron, yr offeir­iaid, y darnau, y pen, a’r brasder, mewn trefn ar y coed a fyddant ar y tân sydd ar yr allor.

9Ond ei berfedd a’i draed a ylch efe mewn dwfr: a’r offeiriad a lysg y cwbl ar yr allor, yn boeth-offrwm, yn aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd.

10¶ Ac os o’r praidd, sef o’r defaid, neu o’r geifr, yr offrymma efe boeth-offrwm; offrymmed ef yn wrryw perffeith-gwbl.

11A lladded ef ger bron yr Arglwydd, o du y gogledd i’r allor; a thaenell­ed meibion Aaron, yr offeir­iaid, ei waed ef ar yr allor o amgylch.

12A thorred ef yn ei ddarnau, gyd â’i ben a’i frasder; a gosoded yr offeiriad hwynt ar y coed a fyddant ar y tân sydd ar yr allor.

13Ond golched y perfedd a’r traed mewn dwfr: a dyged yr offeiriad y cwbl, a llosged ar yr allor. Hwn sydd boeth-offrwm, aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd.

14¶ Ac os poeth-offrwm o aderyn fydd ei offrwm ef i’r Arglwydd; yna dyged ei offrwm o durturau, neu o gywion colomennod.

15A dyged yr offeiriad ef at yr allor, a thorred ei ben ef, a llosged ef ar yr allor; a gwasger ei waed ef ar ystlys yr allor.

16A thynned ymaith ei grombil ef ynghyd â’i blu, a bwried hwynt gerllaw yr allor, o du y dwyrain, i’r lle y byddo y lludw.

17Hollted ef, a’i esgyll hefyd; etto na wahaned ef: a llosged yr offeiriad ef ar yr coed a fyddant ar y tân. Dyma boethoffrwm, aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd.

← Llyfr Exodus 40Read In The App, Free →Llyfr Lefiticus 2 →

Study Llyfr Lefiticus 1

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627