Llyfr Lefiticus 13:2
Dyn (pan fyddo y’nghroen ei gnawd chŵydd, neu grammen, neu ddisgleirder, a bod y’nghroen ei gnawd ef megis pla y clwyf gwahanol,) a ddygir at Aaron yr offeiriad, neu at un o’i feibion ef yr offeiriaid.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
1A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses ac Aaron, gan ddywedyd,
Read all of Llyfr Lefiticus 13
Cross References
Exodus 4:6¶ A dywedodd yr Arglwydd wrtho drachefn, Dod yn awr dy law yn dy fynwes. Ac efe a roddodd ei law yn ei fynwes: a phan dynnodd efe hi allan, wele ei law ef yn wahan-glwyfol fel yr eira.
Leviticus 14:35A dyfod o’r hwn bïau y tŷ, a dangos i’r offeiriad, gan ddywedyd, Gwelaf megis pla yn y tŷ:
Numbers 12:10A’r cwmmwl a ymadawodd oddi ar y babell: ac wele, Miriam ydoedd wahan-glwyfus, fel yr eira. Ac edrychodd Aaron ar Miriam; ac wele hi yn wahan-glwyfus.
Deuteronomy 17:8¶ Os bydd peth mewn barn yn rhy galed i ti, rhwng gwaed a gwaed, rhwng hawl a hawl, neu rhwng pla a phla, mewn pethau ymrafaelus o fewn dy byrth; yna cyfod, a dos i fyny i’r lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw:
Deuteronomy 28:27Yr Arglwydd a’th dery di â chornwyd yr Aipht, ac â chlwyf y marchogion, ac â chrach, ac âg ysfa; o’r rhai ni ellir dy iachâu.
2 Kings 5:1A Naaman, tywysog llu brenin Syria, oedd ŵr mawr yng ngolwg ei ar¬glwydd, ac yn anrhydeddus; canys trwyddo ef y rhoddasai yr ARGLWYDD ymwared i Syria: ac yr oedd efe yn ŵr cadarn nerthol, ond yr oedd yn wahanglwyfus.