Llyfr Lefiticus 13
1A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses ac Aaron, gan ddywedyd,
2Dyn (pan fyddo y’nghroen ei gnawd chŵydd, neu grammen, neu ddisgleirder, a bod y’nghroen ei gnawd ef megis pla y clwyf gwahanol,) a ddygir at Aaron yr offeiriad, neu at un o’i feibion ef yr offeiriaid.
3A’r offeiriad a edrych ar y pla y’nghroen y cnawd: os y blewyn yn y pla fydd wedi troi yn wỳn, a gwelediad y pla yn ddyfnach na chroen ei gnawd ef; pla gwahan-glwyf yw hwnnw: a’r offeiriad a’i hedrych, ac a’i barn yn aflan.
4Ond os y disgleirdeb fydd gwỳn y’nghroen ei gnawd ef, ac heb fod yn is ei welediad na’r croen, a’i flewyn heb droi yn wỳn; yna caued yr offeiriad ar y clwyfus saith niwrnod.
5A’r seithfed dydd edryched yr offeiriad ef: ac wele, os sefyll y bydd y pla yn ei olwg ef, heb ledu o’r pla yn y croen; yna caued yr offeiriad arno saith niwrnod eilwaith.
6Ac edryched yr offeiriad ef yr ail seithfed dydd: ac wele, os bydd y pla yn odywyll, heb ledu o’r pla yn y croen; yna barned yr offeiriad ef yn lân: crammen yw honno: yna golched ei wisgoedd a glân fydd.
7Ac os y grammen gan ledu a leda yn y croen, wedi i’r offeiriad ei weled, i’w farnu yn lân; dangoser ef eilwaith i’r offeiriad.
8Ac os gwel yr offeiriad, ac wele, ledu o’r grammen yn y croen; yna barned yr offeiriad ef yn aflan: gwahan-glwyf yw.
9¶ Pan fyddo ar ddyn bla gwahan-glwyf, dyger ef at yr offeiriad;
10Ac edryched yr offeiriad: yna, os chŵydd gwỳn a fydd yn y croen, a hwnnw wedi troi’r blewyn yn wỳn, a dim cig noeth byw yn y chŵydd;
11Hen wahan-glwyf yw hwnnw y’nghroen ei gnawd ef; a barned yr offeiriad ef yn aflan: na chaued arno; o herwydd y mae efe yn aflan.
12Ond os y gwahan-glwyf gan darddu a dardda yn y croen, a gorchuddio o’r gwahan-glwyf holl groen y clwyfus, o’i ben hyd ei draed, pa le bynnag yr edrycho’r offeiriad;
13Yna edryched yr offeiriad: ac wele, os y gwahan-glwyf fydd yn cuddio ei holl gnawd ef; yna barned yr offeiriad y clwyfus yn lân: trodd yn wỳn i gyd: glân yw.
14A’r dydd y gwelir ynddo gig byw, aflan fydd.
15Yna edryched yr offeiriad ar y cig byw, a barned ef yn aflan: aflan yw y cig byw hwnnw; gwahan-glwyf yw.
16Neu os dychwel y cig byw, a throi yn wỳn; yna deued at yr offeiriad:
17Ac edryched yr offeiriad arno: ac wele, os trodd y pla yn wỳn; yna barned yr offeiriad y clwyfus yn lân: glân yw efe.
18¶ Y cnawd hefyd y bu ynddo gornwyd yn ei groen, a’i iachâu;
19A bod yn lle y cornwyd chwydd gwyn, neu ddisgleirder gwyngoch, a’i ddangos i’r offeiriad:
20Os, pan edrycho yr offeiriad arno, y gwelir ef yn is na’r croen, a’i flewyn wedi troi yn wỳn; yna barned yr offeiriad ef yn aflan: gwahan-glwyf yw efe wedi tarddu o’r cornwyd.
21Ond os yr offeiriad a’i hedrych; ac wele, ni bydd ynddo flewyn gwỳn, ac ni bydd is na’r croen, ond ei fod yn odywyll; yna caued yr offeiriad arno saith niwrnod.
22Ac os gan ledu y lleda yn y croen; yna barned yr offeiriad ef yn aflan: pla yw efe.
23Ond os y disgleirder a saif yn ei le, heb ymledu, craith cornwyd yw efe; a barned yr offeiriad ef yn lân.
24¶ Os cnawd fydd a llosgiad yn y croen, a bod i’r cig byw sydd yn llosgi, ddisgleirder gwyngoch, neu wỳn;
25Yna edryched yr offeiriad ef: ac wele, os blewyn yn y disgleirdeb fydd wedi troi yn wỳn, ac yn îs i’w weled na’r croen; gwahan-glwyf yw hwnnw yn tarddu o’r llosgiad; a barned yr offeiriad ef yn aflan: pla gwahan-glwyf yw hwnnw.
26Ond os yr offeiriad a’i hedrych; ac wele, ni bydd blewyn gwỳn yn y disgleirder, ac ni bydd îs na’r croen, ond ei fod yn odywyll; yna caued yr offeiriad arno saith niwrnod.
27Ac edryched yr offeiriad ef y seithfed dydd: os gan ledu y lledodd yn y croen; yna barned yr offeiriad ef yn aflan: pla gwahan-glwyf yw hwnnw.
28Ac os y disgleirdeb a saif yn ei le, heb ledu yn y croen, ond ei fod yn odywyll; chŵydd y llosgiad yw efe; barned yr offeiriad ef yn lân: canys craith y llosgiad yw hwnnw.
29¶ Os bydd gwr neu wraig a phla arno mewn pen neu farf;
30Yna edryched yr offeiriad y pla: ac wele, os îs y gwelir na’r croen, a blewyn melyn main ynddo; yna barned yr offeiriad ef yn aflan: y ddufrech yw hwnnw; gwahan-glwyf pen neu farf yw.
31Ac os yr offeiriad a edrych ar bla y ddufrech; ac wele, ni bydd yn îs ei weled na’r croen, ac heb flewyn du ynddo; yna caued yr offeiriad ar yr hwn y bo arno y ddufrech, saith niwrnod.
32Ac edryched yr offeiriad ar y pla y seithfed dydd: ac wele, os y ddufrech ni bydd wedi lledu, ac ni bydd blewyn melyn ynddi, a heb fod yn îs gweled y ddufrech na’r croen;
33Yna eillier ef, ac nac eillied y fan y byddo y ddufrech; a chaued yr offeiriad ar berchen y ddufrech saith niwrnod eilwaith.
34A’r seithfed dydd edryched yr offeiriad ar y ddufrech: ac wele, os y ddufrech ni ledodd yn y croen, ac ni bydd îs ei gweled na’r croen; yna barned yr offeiriad ef yn lân, a golched ei ddillad, a glân fydd.
35Ond os y ddufrech gan ledu a leda yn y croen, wedi ei lanhâu ef;
36Yna edryched yr offeiriad ef: ac wele, os lledodd y ddufrech yn y croen, na chwilied yr offeiriad am y blewyn melyn: y mae efe yn aflan.
37Ond os sefyll y bydd y ddufrech yn ei olwg ef, a blewyn du wedi tyfu ynddi; aeth y ddufrech yn iach, glân yw hwnnw; a barned yr offeiriad ef yn lân.
38¶ Os bydd y’nghroen cnawd gwr neu wraig lawer o ddisglair fannau gwỳnion;
39Yna edryched yr offeiriad: ac wele, os bydd y’nghroen eu cnawd hwynt ddisgleiriadau gwỳnion wedi gordduo; brychni yw hynny yn tarddu yn y croen: glân yw efe.
40A gwr pan syrthio gwallt ei ben, moel yw; etto glân fydd.
41Ac os o du ei wyneb y syrth gwallt ei ben, efe a fydd tal-foel; etto glân fydd efe.
42Ond pan fyddo anafod gwỳn-goch yn y pen-foeledd neu yn y tal-foeledd; gwahan-glwyf yw efe yn tarddu yn ei ben-foeledd, neu yn ei dal-foeledd ef.
43Ac edryched yr offeiriad arno: ac wele, os bydd chŵydd yr anafod yn wỳn-goch, yn ei ben-foeledd, neu yn ei dal-foeledd ef, fel gwelediad gwahan-glwyf y’nghroen y cnawd;
44Gwr gwahan-glwyfus yw hwnnw, aflan yw; a’r offeiriad a’i barna ef yn llwyr-aflan: yn ei ben y mae ei bla.
45A’r gwahan-glwyfus yr hwn y byddo pla arno, bydded ei wisgoedd ef wedi rhwygo, a’i ben yn noeth, a rhodded gaead ar ei wefus uchaf, a llefed, Aflan, aflan.
46Yr holl ddyddiau y byddo y pla arno, bernir ef yn aflan: aflan yw efe: triged ei hunan; bydded ei drigfa allan o’r gwersyll.
47¶ Ac os dilledyn fydd a phla gwahan-glwyf ynddo, o ddilledyn gwlan, neu o ddilledyn llin,
48Pa un bynnag ai yn yr ystof, ai yn yr anwe, o lin, neu o wlan, neu mewn croen, neu mewn dim a wnaed o groen;
49Os gwyrddlas neu goch fydd yr anafod yn y dilledyn, neu yn y croen, neu yn yr ystof, neu yn yr anwe, neu mewn dim o groen: pla y gwahan-glwyf yw efe; a dangoser ef i’r offeiriad.
50Ac edryched yr offeiriad ar y pla; a chaued ar y peth y bo y pla arno, saith niwrnod.
51A’r seithfed dydd edryched ar y pla: os y pla a ledodd yn y dilledyn, pa un bynnag ai mewn ystof, ai mewn anwe, ai mewn croen, neu beth bynnag a wnaed o groen; gwahan-glwyf ysol yw y pla; aflan yw.
52Am hynny llosged y dilledyn hwnnw, pa un bynnag ai ystof, ai anwe, o wlan, neu o lin, neu ddim o groen, yr hwn y byddo pla ynddo: canys gwahan-glwyf ysol yw efe; llosger yn tân.
53Ac os edrych yr offeiriad; ac wele, ni ledodd y pla mewn dilledyn, mewn ystof, neu mewn anwe, neu ddim o groen;
54Yna gorchymyned yr offeiriad iddynt olchi yr hyn y byddo y pla ynddo, a chaued arno saith niwrnod eilwaith.
55Ac edryched yr offeiriad ar y pla wedi ei olchi: ac wele, os y pla ni throdd ei liw, ac ni ledodd y pla; efe a fydd aflan, llosg ef yn tân; ysiad yw, pa un bynnag y bo yn llwm ai o’r tu mewn ai o’r tu allan.
56Ac os edrych yr offeiriad; ac wele y pla yn odywyll, ar ol ei olchi; yna torred ef allan o’r dilledyn, neu o’r croen, neu o’r ystof, neu o’r anwe.
57Ond os gwelir ef etto yn y dilledyn, yn yr ystof, neu yn yr anwe, neu mewn dim o groen; tarddu y mae efe: llosg yr hwn y mae y pla ynddo yn tân.
58A’r dilledyn, neu yr ystof, neu yr anwe, neu pa beth bynnag o groen, y rhai a olcher, os ymadawodd y pla â hwynt, a olchir eilwaith; a glân fydd.
59Dyma gyfraith pla gwahan-glwyf, mewn dilledyn gwlan, neu lin, mewn ystof, neu anwe, neu pa beth bynnag o groen, i’w farnu yn lân, neu i’w farnu yn aflan.