Llyfr Lefiticus 13:45
A’r gwahan-glwyfus yr hwn y byddo pla arno, bydded ei wisgoedd ef wedi rhwygo, a’i ben yn noeth, a rhodded gaead ar ei wefus uchaf, a llefed, Aflan, aflan.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Lefiticus 13
Cross References
Leviticus 10:6A dywedodd Moses wrth Aaron, ac wrth Eleazar ac wrth Ithamar ei feibion, Na ddïosgwch oddi am eich pennau, ac na rwygwch eich gwisgoedd: rhag i chwi farw, a dyfod digofaint ar yr holl gynnulleidfa: ond wyled eich brodyr chwi, holl dŷ Israel, am y llosgiad a losgodd yr Arglwydd.
Numbers 5:2Gorchymyn i feibion Israel, anfon allan o’r gwersyll bob gwahanglwyfus, a phob un y byddo diferlif arno, a phob un a halogir wrth y marw.
Job 1:20Yna y cyfododd Job, ac a rwygodd ei fantell, ac a eilliodd ei ben, ac a syrthiodd i lawr, ac a addolodd;
Psalms 51:3Ein DUW ni a ddaw, ac ni bydd distaw: tân a ysa o’i flaen ef, a thymestl ddirfawr fydd o’i amgylch.
Isaiah 6:5Yna y dywedais, Gwae fi! canys darfu amdanaf; oherwydd gŵr halogedig ei wefusau ydwyf fi, ac ymysg pobl halogedig o wefusau yr ydwyf yn trigo: canys fy llygaid a welsant y brenin, ARGLWYDD y lluoedd.
Isaiah 64:6Eithr yr ydym ni oll megis peth aflan, ac megis bratiau budron yw ein holl gyfiawnderau; a megis deilen y syrthia- som ni oll; a’n hanwireddau, megis gwynl, a’n dug ni ymaith. º