Llyfr Lefiticus 16:2
A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Llefara wrth Aaron dy frawd, na ddelo bob amser i’r cyssegr o fewn y wahanlen, ger bron y drugareddfa sydd ar yr arch; fel na byddo efe farw: o herwydd mi a ymddangosaf ar y drugareddfa yn y cwmmwl.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
3A hyn y daw Aaron i’r cyssegr: â bustach ieuangc yn bech-aberth, ac â hwrdd yn boeth-offrwm.
Read all of Llyfr Lefiticus 16
Cross References
Exodus 25:17A gwna drugareddfa o aur coeth, o ddau gufydd a hanner ei hŷd, a chufydd a hanner ei lled.
Exodus 26:33¶ A dod y wahanlen wrth y bachau, fel y gellych ddwyn yno, o fewn y wahanlen, arch y dystiolaeth: a’r wahanlen a wna wahan i chwi rhwng y cyssegr a’r cyssegr sancteiddiolaf.
Exodus 40:20¶ Cymmerodd hefyd a rhoddodd y dystiolaeth yn yr arch, a gosododd y trosolion wrth yr arch, ac a roddodd y drugareddfa i fynu ar yr arch.
Leviticus 8:35Ac arhoswch wrth ddrws pabell y cyfarfod saith niwrnod, ddydd a nos, a chedwch wyliadwriaeth yr Arglwydd, fel na byddoch feirw: canys fel hyn y’m gorchymynwyd.
Leviticus 16:34A bydded hyn yn ddeddf dragywyddol i chwi, i wneuthur cymmod dros feibion Israel, am eu pechodau oll, un waith yn y flwyddyn. Ac efe a wnaeth megis y gorchymynodd yr Arglwydd wrth Moses.
Numbers 4:19Ond hyn a wnewch iddynt, fel y byddont fyw, ac na fyddont feirw, pan nesânt at y pethau sancteiddiolaf: Aaron a’i feibion a ânt i mewn, ac a’u gosodant hwy bob un ar ei wasanaeth ac ar ei glud.