The Bible Software
Llyfr Lefiticus · Beibl (1620)

Llyfr Lefiticus 16

1Gwyl y cymmod bob blwyddyn. Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, wedi marwolaeth dau fab Aaron, pan offrymmasant ger bron yr Arglwydd, ac y buant feirw,

2A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Llefara wrth Aaron dy frawd, na ddelo bob amser i’r cyssegr o fewn y wahanlen, ger bron y drugareddfa sydd ar yr arch; fel na byddo efe farw: o herwydd mi a ymddangosaf ar y drugareddfa yn y cwmmwl.

3A hyn y daw Aaron i’r cyssegr: â bustach ieuangc yn bech-aberth, ac â hwrdd yn boeth-offrwm.

4Gwisged bais lïan sanctaidd, a bydded llodrau llïan am ei gnawd, a gwregyser ef â gwregys llïan, a gwisged feitr llïan: gwisgoedd sanctaidd yw y rhai hyn; golched yntau ei gnawd mewn dwfr, pan wisgo hwynt.

5A chymmered gan gynnulleidfa meibion Israel ddau lwdn gafr yn bech-aberth, ac un hwrdd yn boeth-offrwm.

6Ac offrymmed Aaron fustach y pech-aberth a fyddo drosto ei hun, a gwnaed gymmod drosto ei hun, a thros ei dŷ.

7A chymmered y ddau fwch, a gosoded hwynt ger bron yr Arglwydd, wrth ddrws pabell y cyfarfod.

8A rhodded Aaron goelbrennau ar y ddau fwch; un coelbren dros yr Arglwydd, a’r coelbren arall dros y bwch dihangol.

9A dyged Aaron y bwch y syrthiodd coelbren yr Arglwydd arno, ac offrymmed ef yn bech-aberth.

10A’r bwch y syrthiodd arno y coelbren i fod yn fwch dïangol, a roddir i sefyll yn fyw ger bron yr Arglwydd, i wneuthur cymmod ag ef, ac i’w ollwng i’r anialwch yn fwch dïangol.

11A dyged Aaron fustach y pech-aberth a fyddo drosto ei hun, a gwnaed gymmod drosto ei hun, a thros ei dŷ; a lladded fustach y pech-aberth a fyddo drosto ei hun:

12A chymmered lonaid thusser o farwor tanllyd oddi ar yr allor, oddi ger bron yr Arglwydd, a llonaid ei ddwylaw o arogl-darth peraidd mân, a dyged o fewn y wahanlen:

13A rhodded yr arogl-darth ar y tân, ger bron yr Arglwydd; fel y cuddio mwg yr arogl-darth y drugareddfa, yr hon sydd ar y dystiolaeth, ac na byddo efe farw:

14A chymmered o waed y bustach, a thaenelled â’i fys ar y dru gareddfa tu a’r dwyrain: a saith waith y taenella efe o’r gwaed â’i fys o flaen y drugareddfa.

15¶ Yna lladded fwch y pech-aberth fydd dros y bobl, a dyged ei waed ef o fewn y wahanlen; a gwnaed â’i waed megis ag y gwnaeth â gwaed y bustach, a thaenelled ef ar y drugareddfa, ac o flaen y drugareddfa:

16A glanhâed y cyssegr oddi wrth aflendid meibion Israel, ac oddi wrth eu hanwireddau, yn eu holl bechodau: a gwnaed yr un modd i babell y cyfarfod, yr hon sydd yn aros gyd â hwynt, ym mysg eu haflendid hwynt.

17Ac na fydded un dyn ym mhabell y cyfarfod, pan ddelo efe i mewn i wneuthur cymmod yn y cyssegr, hyd oni ddelo efe allan, a gwneuthur o hono ef gymmod drosto ei hun, a thros ei dŷ, a thros holl gynnulleidfa Israel.

18Ac aed efe allan at yr allor sydd ger bron yr Arglwydd, a gwnaed gymmod arni; a chymmered o waed y bustach, ac o waed y bwch, a rhodded ar gyrn yr allor oddi amgylch.

19A thaenelled arni o’r gwaed seithwaith â’i fys, a glanhâed hi, a sancteiddied hi oddi wrth aflendid meibion Israel.

20¶ A phan ddarffo iddo lanhâu y cyssegr, a phabell y cyfarfod, a’r allor, dyged y bwch byw:

21A gosoded Aaron ei ddwylaw ar ben y bwch byw, a chyffesed arno holl anwiredd meibion Israel, a’u holl gamweddau hwynt yn eu holl bechodau; a rhodded hwynt ar ben y bwch, ac anfoned ef ymaith yn llaw gŵr cymwys i’r anialwch.

22A’r bwch a ddwg eu holl anwiredd hwynt arno, i dir neillduaeth: am hynny hebrynged efe y bwch i’r anialwch.

23Yna deued Aaron i babell y cyfarfod, a dïosged y gwisgoedd llïan a wisgodd efe wrth ddyfod i’r cyssegr, a gadawed hwynt yno.

24A golched ei gnawd mewn dwfr yn y lle sanctaidd, a gwisged ei ddillad, ac aed allan, ac offrymmed ei boeth-offrwm ei hun, a phoeth-offrwm y bobl, a gwnaed gymmod drosto ei hun, a thros y bobl.

25A llosged wer y pech-aberth ar yr allor.

26A golched yr hwn a anfonodd y bwch i fod yn fwch dïangol, ei ddillad, a golched ei gnawd mewn dwfr; ac yna deued i’r gwersyll.

27A bustach y pech-aberth, a bwch y pech-aberth, y rhai y dygwyd eu gwaed i wneuthur cymmod yn y cyssegr, a ddwg un i’r tu allan i’r gwersyll; a hwy a losgant eu crwyn hwynt, a’u cnawd, a’u biswail, yn tân.

28A golched yr hwn a’u llosgo hwynt ei ddillad, golched hefyd ei gnawd mewn dwfr; wedi hynny deued i’r gwersyll.

29¶ A bydded hyn yn ddeddf dragywyddol i chwi: y seithfed mis, ar y degfed dydd o’r mis, y cystuddiwch eich eneidiau, a dim gwaith nis gwnewch, y prïodor a’r dïeithr a fyddo yn ymdaith yn eich plith.

30O herwydd y dydd hwnnw y gwna yr offeiriad gymmod drosoch, i’ch glanhâu o’ch holl bechodau, fel y byddoch lân gerbron yr Arglwydd.

31Sabbath gorphwystra yw hwn i chwi; yna cystuddiwch eich eneidiau, trwy ddeddf dragywyddol.

32A’r offeiriad, yr hwn a enneinio efe, a’r hwn a gyssegro efe, i offeiriadu yn lle ei dad, a wna y cymmod, ac a wisg y gwisgoedd llïan, sef y gwisgoedd sanctaidd:

33Ac a lanhâ y cyssegr sanctaidd, ac a lanhâ babell y cyfarfod, a’r allor; ac a wna gymmod dros yr offeiriaid, a thros holl bobl y gynnulleidfa.

34A bydded hyn yn ddeddf dragywyddol i chwi, i wneuthur cymmod dros feibion Israel, am eu pechodau oll, un waith yn y flwyddyn. Ac efe a wnaeth megis y gorchymynodd yr Arglwydd wrth Moses.

← Llyfr Lefiticus 15Read In The App, Free →Llyfr Lefiticus 17 →

Study Llyfr Lefiticus 16

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627