Llyfr Lefiticus 16:5
A chymmered gan gynnulleidfa meibion Israel ddau lwdn gafr yn bech-aberth, ac un hwrdd yn boeth-offrwm.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Lefiticus 16
Cross References
Leviticus 1:10¶ Ac os o’r praidd, sef o’r defaid, neu o’r geifr, yr offrymma efe boeth-offrwm; offrymmed ef yn wrryw perffeith-gwbl.
Leviticus 4:13¶ Ac os holl gynnulleidfa Israel a becha mewn anwybod, a’r peth yn guddiedig o olwg y gynnulleidfa, a gwneuthur o honynt yn erbyn yr un o orchymynion yr Arglwydd, ddim o’r hyn ni ddylid eu gwneuthur, a myned yn euog:
Leviticus 8:14Ac efe a ddug fustach yr aberth dros bechod: ac Aaron a’i feibion a roddasant eu dwylaw ar ben bustach yr aberth dros bechod;
Leviticus 9:8¶ Yna y nesaodd Aaron at yr allor, ac a laddodd lo yr aberth dros bechod, yr hwn oedd drosto ef ei hun.
2 Chronicles 29:21A hwy a ddygasant saith o fustych, a saith o hyrddod, a saith o ŵyn, a saith o fychod geifr, yn bech-aberth dros y frenhiniaeth, a thros y cysegr, a thros Jwda: ac efe a ddywedodd wrth yr offeiriaid meibion Aaron, am offrymu y rhai hynny ar allor yr ARGLWYDD.
Ezekiel 45:22A'r tywysog a ddarpara ar y dydd hwnnw drosto ei hun, a thros holl bobliy wlad, fustach yn bech-aberth.