The Bible Software
Llyfr Lefiticus · Beibl (1620)

Llyfr Lefiticus 17

1a phob peth a fo marw ei hun, neu a ynglyfaethwyd. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

2Llefara wrth Aaron, ac wrth ei feibion, ac wrth holl feibion Israel, a dywed wrthynt, Dyma y peth a orchymynodd yr Arglwydd, gan ddywedyd,

3Pob un o dŷ Israel a laddo ŷch, neu oen, neu afr, o fewn y gwersyll, neu a laddo allan o’r gwersyll,

4Ac heb ei ddwyn i ddrws pabell y cyfarfod, i offrymmu offrwm i’r Arglwydd, o flaen tabernacl yr Arglwydd; gwaed a fwrir yn er byn y gwr hwnnw; gwaed a dywalltodd efe: a thorrir y gwr hwnnw ymaith o blith ei bobl.

5O herwydd yr hwn beth, dyged meibion Israel eu haberthau y rhai y maent yn eu haberthu ar wyneb y maes; ïe, dygant hwynt i’r Arglwydd, i ddrws pabell y cyfarfod, at yr offeiriad, ac aberthant hwynt yn aberthau hedd i’r Arglwydd.

6A thaenelled yr offeiriad y gwaed ar allor yr Arglwydd, wrth ddrws pabell y cyfarfod, a llosged y gwer yn arogl peraidd i’r Arglwydd.

7Ac nac aberthant eu haberthau mwy i gythreuliaid, y rhai y buant yn putteinio ar eu hol. Deddf dragwyddol fydd hyn iddynt, trwy eu cenhedlaethau.

8¶ Dywed gan hynny wrthynt, Pwy bynnag o dŷ Israel, ac o’r dïeithriaid a ymdeithio yn eich mysg, a offrymmo boeth-offrwm, neu aberth,

9Ac nis dwg ef i ddrws pabell y cyfarfod, i’w offrymmu i’r Arglwydd; torrir ymaith y gwr hwnnw o blith ei bobl.

10¶ A phwy bynnag o dŷ Israel, ac o’r dïeithriaid a ymdeithio yn eich mysg, a fwyttao ddim gwaed; myfi a osodaf fy wyneb yn erbyn yr enaid a fwyttao waed, a thorraf ef ymaith o fysg ei bobl.

11O herwydd einioes y cnawd sydd yn y gwaed, a mi a’i rhoddais i chwi ar yr allor, i wneuthur cymmod dros eich eneidiau; o herwydd y gwaed hwn a wna gyfaod dros yr enaid.

12Am hynny y dywedais wrth feibion Israel, Na fwyttaed un enaid o honoch waed; a’r dieithr a ymdeithio yn eich mysg, na fwyttaed waed.

13A phwy bynnag o feibion Israel, neu o’r dieithriaid a ymdeithio yn eu mysg, a helio helfa o fwystfil, neu o aderyn a fwyttaer; tywallted ymaith ei waed ef, a chuddied ef â llwch.

14O herwydd einioes pob cnawd yw ei waed; yn lle ei einioes ef y mae: am hynny y dywedais wrth feibion Israel, Na fwyttêwch waed un cnawd; o herwydd einioes pob cnawd yw ei waed: pwy bynnag a’i bwyttao, a dorrir ymaith.

15A phob dyn a’r a fwyttao y peth a fu farw o hono ei hun, neu ysglyfaeth, pa un bynnag ai prïodor, ai dïeithrddyn; golched ei ddillad, ac ymolched mewn dwfr, a bydded aflan hyd yr hwyr: yna glân fydd.

16Ond os efe nis gylch hwynt, ac ni ylch ei gnawd; yna y dwg efe ei anwiredd.

← Llyfr Lefiticus 16Read In The App, Free →Llyfr Lefiticus 18 →

Study Llyfr Lefiticus 17

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627