Llyfr Lefiticus 19:15
¶ Na wnewch gam mewn barn; na dderbyn wyneb y tlawd, ac na pharcha wyneb y cadarn: barna dy gymmydog mewn cyfiawnder.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
14¶ Na felldiga’r byddar, ac na ddod dramgwydd o flaen y dall; ond ofna dy Dduw: yr Arglwydd ydwyf fi.
16¶ Ac na rodia yn athrodwr ym mysg dy bobl; na saf yn erbyn gwaed dy gymmydog; yr Arglwydd ydwyf fi.
Read all of Llyfr Lefiticus 19
Cross References
Exodus 23:2¶ Na ddilyn lïaws i wneuthur drwg; ac nac atteb mewn ymrafael, gan bwyso yn ol llaweroedd, i ŵyro barn.
Exodus 23:6Na ŵyra farn dy dlawd yn ei ymrafael.
Deuteronomy 1:17Na chydnabyddwch wynebau mewn barn; gwrandêwch ar y lleiaf, yn gystal ag ar y mwyaf: nac ofnwch wyneb gwr; oblegid y farn sydd eiddo Duw: a’r peth a fydd rhy galed i chwi, a ddygwch attaf fi, a mi a’i gwrandawaf.
Deuteronomy 25:13¶ Na fydded gennyt yn dy gôd amryw bwys, mawr a bychan.
2 Chronicles 19:6Ac efe a ddywedodd wrth y barnwyr, Edrychwch beth a wneloch: canys nid dros ddyn yr ydych yn barnu, ond dros yr ARGLWYDD; ac efe a fydd gyda chwi wrth roddi barn.
Psalms 82:2Cymerwch Salm, a moeswch dympan, y delyn fwyn a’r nabl.