The Bible Software
Llyfr Lefiticus · Beibl (1620)

Llyfr Lefiticus 19

1Ail-adrodd amryw gyfreithiau. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

2Llefara wrth holl gynnulleidfa meibion Israel, a dywed wrthynt, Byddwch sanctaidd: canys sanctaidd ydwyf fi, yr Arglwydd eich Duw chwi.

3¶ Ofnwch bob un ei fam, a’i dad; a chedwch fy Sabbathau: yr Arglwydd eich Duw ydwyf fi.

4Na throwch at eilunod, ac na wnewch i chwi dduwiau tawdd: yr Arglwydd eich Duw ydwyf fi.

5¶ A phan aberthoch hedd-aberth i’r Arglwydd, yn ol eich ewyllys eich hun yr aberthwch hynny.

6Ar y dydd yr offrymmoch, a thrannoeth, y bwyttêir ef: a llosger yn tân yr hyn a weddillir hyd y trydydd dydd.

7Ond os gan fwytta y bwyttêir ef o fewn y trydydd dydd, ffiaidd fydd efe, ni bydd gymmeradwy.

8A’r hwn a’i bwyttao a ddwg ei anwiredd, am iddo halogi cyssegredig beth yr Arglwydd; a’r enaid hwnnw a dorrir ymaith o blith ei bobl.

9¶ A phan gynhauafoch gynhauaf eich tir, na feda yn llwyr gonglau dy faes, ac na chynnull loffion dy gynhauaf.

10Na loffa hefyd dy winllan, ac na chynnull rawn gweddill dy winllan; gâd hwynt i’r tlawd ac i’r dïeithr: yr Arglwydd eich Duw chwi ydwyf fi.

11¶ Na ladrattêwch, ac na ddywedwch gelwydd, ac na thwyllwch bob un ei gymmydog.

12¶ Ac na thyngwch i’m henw i yn anudon, ac na haloga enw dy Dduw; yr Arglwydd ydwyf fi.

13¶ Na cham-atal oddi wrth dy gymmydog, ac nac yspeilia ef: na thriged cyflog y gweithiwr gyd â thi hyd y bore.

14¶ Na felldiga’r byddar, ac na ddod dramgwydd o flaen y dall; ond ofna dy Dduw: yr Arglwydd ydwyf fi.

15¶ Na wnewch gam mewn barn; na dderbyn wyneb y tlawd, ac na pharcha wyneb y cadarn: barna dy gymmydog mewn cyfiawnder.

16¶ Ac na rodia yn athrodwr ym mysg dy bobl; na saf yn erbyn gwaed dy gymmydog; yr Arglwydd ydwyf fi.

17¶ Na chasâ dy frawd yn dy galon: gan geryddu cerydda dy gymmydog, ac na ddïoddef bechod ynddo.

18¶ Na ddïala, ac na chadw lid i feibion dy bobl; ond câr dy gym mydog megis ti dy hun: yr Arglwydd ydwyf fi.

19¶ Cedwch fy neddfau: na âd i’th anifeiliaid gydio o amryw rywogaeth, ac na haua dy faes âg amryw had; ac nac aed am danat ddilledyn cymmysg o lin a gwlan.

20¶ A phan fyddo i wr a wnelo â benyw, a hithau yn forwyn gaeth wedi ei dyweddïo i wr, ac heb ei rhyddhâu ddim, neu heb roddi rhyddid iddi; bydded iddynt gurfa; ac na ladder hwynt, am nad oedd hi rydd.

21A dyged efe yn aberth dros ei gamwedd i’r Arglwydd, i ddrws pabell y cyfarfod, hwrdd dros gamwedd.

22A gwnaed yr offeiriad gymmod drosto â’r hwrdd dros gamwedd, ger bron yr Arglwydd, am ei bechod a bechodd efe: a maddeuir iddo am ei bechod a wnaeth efe.

23¶ A phan ddeloch i’r tir, a phlannu o honoch bob pren ymborth; cyfrifwch yn ddïenwaededig ei ffrwyth ef; tair blynedd y bydd efe megis dïenwaededig i chwi: na fwyttâer o hono.

24A’r bedwaredd flwyddyn y bydd ei holl ffrwyth yn sanctaidd i foliannu yr Arglwydd âg ef.

25A’r bummed flwyddyn y bwyttêwch ei ffrwyth, fel y chwanego efe ei gnwd i chwi: myfi yw yr Arglwydd eich Duw.

26¶ Na fwyttêwch ddim ynghyd â’i waed: nac arferwch na swynion, na choel ar frudiau.

27Na thalgrynnwch odre eich pen, ac na thor gyrrau dy farf.

28Ac na wnewch dorriadau yn eich cnawd am un marw, ac na roddwch brint nôd arnoch: yr Arglwydd ydwyf fi.

29¶ Na haloga dy ferch, gan beri iddi butteinio: rhag putteinio y tir, a llenwi y wlad o ysgelerder.

30¶ Cedwch fy Sabbathau, a pherchwch fy nghyssegr: yr Arglwydd ydwyf fi.

31¶ Nac ewch ar ol dewiniaid, a nac ymofynnwch â’r brudwyr, i ymhalogi o’u plegid: yr Arglwydd eich Duw ydwyf fi.

32¶ Cyfod ger bron penwynni, a pharcha wyneb henuriad; ac ofna dy Dduw: yr Arglwydd ydwyf fi.

33¶ A phan ymdeithio dïeithrddyn ynghyd â thi yn eich gwlad, na flinwch ef.

34Bydded y dïeithr i chwi, yr hwn a ymdeithio yn eich plith, fel yr un a hanffo o honoch, a châr ef fel ti dy hun; o herwydd dïeithriaid fuoch y’ngwlad yr Aifft: yr Arglwydd eich Duw ydwyf fi.

35¶ Na wnewch gam ar farn, ar lathen, ar bwys, nac ar fesur.

36Bydded i chwi gloriannau cyfiawn, gerrig cyfiawn, ephah gyfiawn, a hin gyfiawn: yr Arglwydd eich Duw ydwyf fi, yr hwn a’ch dygais allan o dir yr Aipht.

37Cedwch chwithau fy holl ddeddfau, a’m holl farnedigaethau, a gwnewch hwynt: yr Arglwydd ydwyf fi.

← Llyfr Lefiticus 18Read In The App, Free →Llyfr Lefiticus 20 →

Study Llyfr Lefiticus 19

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627