Llyfr Lefiticus 19:9
¶ A phan gynhauafoch gynhauaf eich tir, na feda yn llwyr gonglau dy faes, ac na chynnull loffion dy gynhauaf.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Lefiticus 19
Cross References
Leviticus 23:22¶ A phan fedoch gynhauaf eich tir, na lwyr-feda gyrrau dy faes, ac na loffa loffion dy gynhauaf; gâd hwynt i’r tlawd a’r dïeithr: myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi.
Deuteronomy 24:19¶ Pan fedech dy gynhauaf yn dy faes, ac anghofio ysgub yn y maes, na ddychwel i’w chymmeryd: bydded i’r dïeithr, i’r amddifad, ac i’r weddw; fel y bendithio yr Arglwydd dy Dduw di yn holl waith dy ddwylaw.
Ruth 2:2A Ruth y Foabes a ddywedodd wrth Naomi, Gad i mi fyned yn awr i’r maes, a lloffa tywysennau ar ôl yr hwn y caffwyf ffafr yn ei olwg. Hithau a ddywedodd wrthi, Dos, fy merch.
Ruth 2:15A hi a gyfododd i loffa: a gorchmynnodd Boas i’w weision, gan ddywedyd, Lloffed hefyd ymysg yr ysgubau, ac na feiwch arni: