Llyfr Lefiticus 2:13
Dy holl fwyd-offrwm hefyd a hellti di â halen; ac na phalled halen cyfammod dy Dduw o fod ar dy fwyd-offrwm: offrymma halen ar bob offrwm i ti.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
12¶ Offrymmwch i’r Arglwydd offrwm y blaen-ffrwyth; ond na losger hwynt ar yr allor yn arogl peraidd.
Cross References
Exodus 30:35A gwna ef yn arogl-darth arogl-bêr o waith yr apothecari, wedi ei gyd-dymheru, yn bur ac yn sanctaidd.
2 Chronicles 13:5Oni ddylech chwi wybod roddi o ARGLWYDD DDUW Israel y frenhiniaeth i Dafydd ar Israel yn dragywydd, iddo ef ac i’w feibion, trwy gyfamod halen?
Ezekiel 43:24Ac o flaen yr ARGLWYDD yr offrymi hwynt; a'r offeiriaid a fwriant halen arnynt, ac a'u hoffrymant hwy yn boethoffrwm i'r ARGLWYDD.
Mark 9:49Canys pob un a helltir â thân, a phob aberth a helltir â halen.