The Bible Software
Llyfr Lefiticus · Beibl (1620)

Llyfr Lefiticus 2

1Halen y bwyd-offrwm. Pan offrymmo dyn fwyd-offrwm i’r Arglwydd, bydded ei offrwm ef o beilliaid; a thywallted olew arno, a rhodded thus arno.

2A dyged ef at feibion Aaron, yr offeiriaid: a chymmered efe oddi yno lonaid ei law o’i beilliaid, ac o’i olew, ynghyd â’i holl thus; a llosged yr offeiriad ei goffadwriaeth ar yr allor, yn offrwm tanllyd o arogl peraidd i’r Arglwydd.

3A bydded gweddill y bwyd-offrwm i Aaron ac i’w feibion: sancteiddbeth o danllyd offrymmau yr Arglwydd ydyw.

4¶ Hefyd pan offrymmech fwyd-offrwm, wedi ei bobi mewn ffwrn, teisen beilliaid groyw, wedi ei chymmysgu trwy olew, neu afrllad croyw wedi eu heneinio âg olew, a fydd.

5¶ Ond os bwyd-offrwm ar radell fydd dy offrwm di, bydded o beilliaid wedi ei gymmysgu yn groyw trwy olew.

6Tor ef yn ddarnau, a thywallt arno olew; bwyd-offrwm yw.

7¶ Ac os bwyd-offrwm padell fydd dy offrwm, gwneler o beilliaid trwy olew.

8A dwg i’r Arglwydd y bwyd-offrwm, yr hwn a wneir o’r rhai hyn: ac wedi y dyger at yr offeiriad, dyged yntau ef at yr allor.

9A choded yr offeiriad ei goffadwriaeth o’r bwyd-offrwm, a llosged ef ar yr allor; yn offrwm tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd.

10A bydded i Aaron ac i’w feibion weddill y bwyd-offrwm: sancteiddbeth o danllyd offrymmau yr Arglwydd ydyw.

11Na wneler yn lefeinllyd ddim bwyd-offrwm a offrymmoch i’r Arglwydd; canys dim surdoes, na mêl, ni losgwch yn offrwm tanllyd i’r Arglwydd.

12¶ Offrymmwch i’r Arglwydd offrwm y blaen-ffrwyth; ond na losger hwynt ar yr allor yn arogl peraidd.

13Dy holl fwyd-offrwm hefyd a hellti di â halen; ac na phalled halen cyfammod dy Dduw o fod ar dy fwyd-offrwm: offrymma halen ar bob offrwm i ti.

14Ac os offrymmi i’r Arglwydd fwyd-offrwm y ffrwythau cyntaf; tywysennau irion wedi eu crasu wrth y tân, sef ŷd a gurir allan o’r dywysen lawn, a offrymmi di yn fwyd-offrwm dy ffrwythau cyntaf.

15A dod olew arno, a gosod thus arno: bwyd-offrwm yw.

16A llosged yr offeiriad ei goffadwriaeth ef o’i ŷd wedi ei guro allan, ac o’i olew, ynghyd â’i holl thus: offrwm tanllyd i’r Arglwydd yw.

← Llyfr Lefiticus 1Read In The App, Free →Llyfr Lefiticus 3 →

Study Llyfr Lefiticus 2

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627