Llyfr Lefiticus 21:5
Na wnant foelni ar eu pennau, ac nac eilliant gyrrau eu barfau, ac na thorrant dorriadau ar eu cnawd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
4Nac ymhaloged pennaeth ym mysg ei bobl, i’w aflanhâu ei hun.
Read all of Llyfr Lefiticus 21
Cross References
Leviticus 10:6A dywedodd Moses wrth Aaron, ac wrth Eleazar ac wrth Ithamar ei feibion, Na ddïosgwch oddi am eich pennau, ac na rwygwch eich gwisgoedd: rhag i chwi farw, a dyfod digofaint ar yr holl gynnulleidfa: ond wyled eich brodyr chwi, holl dŷ Israel, am y llosgiad a losgodd yr Arglwydd.
Deuteronomy 14:1Degwm y drydedd flwyddyn yn elusen. Plant ydych chwi i’r Arglwydd eich Duw: na thorrwch mo honoch eich hunain, ac na wnewch foelni rhwng eich llygaid, dros y marw.
Isaiah 22:12A’r dydd hwnnw y gwahoddodd Arglwydd DDUW y lluoedd rai i wylofain, ac i alarnad, ac i foeledd, ac i ymwregysu a’sachliain: º
Jeremiah 48:37Oblegid pob pen a fydd moel, a phob barf a dorrir; ar bob llaw y bydd rhwygiadau, ac am y llwynau, sachliain. º
Amos 8:10Troaf hefyd eich gwyliau yn alar, a’ch holl ganiadau yn oernad: dygaf sachliain ar yr holl lwynau, a moelni ar bob, pen: a mi a’i’gwnaf fel galar am unmab, a’i ddiwedd fel dydd chwerw.