The Bible Software
Llyfr Lefiticus · Beibl (1620)

Llyfr Lefiticus 21

1Ni chaiff yr offeiriaid a fo arnynt anaf weini yn y cyssegr A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Llefara wrth yr offeiriaid, meibion Aaron, a dywed wrthynt, Nac ymhaloged neb am y marw ym mysg ei bobl.

2Ond am ei gyfnesaf agos iddo; am ei fam, am ei dad, ac am ei fab, ac am ei ferch, ac am ei frawd,

3Ac am ei chwaer o forwyn, yr hon sydd agos iddo, yr hon ni fu eiddo gwr: am honno y gall ymhalogi.

4Nac ymhaloged pennaeth ym mysg ei bobl, i’w aflanhâu ei hun.

5Na wnant foelni ar eu pennau, ac nac eilliant gyrrau eu barfau, ac na thorrant dorriadau ar eu cnawd.

6Sanctaidd fyddant i’w Duw, ac na halogant enw eu Duw: o herwydd offrymmu y maent ebyrth tanllyd yr Arglwydd, a bara eu Duw; am hynny byddant sanctaidd.

7Na chymmerant butteinwraig, neu un halogedig, yn wraig: ac na chymmerant wraig wedi ysgar oddi wrth ei gwr; o herwydd sanctaidd yw efe i’w Dduw.

8A chyfrif di ef yn sanctaidd; o herwydd bara dy Dduw di y mae efe yn ei offrymmu: bydded sanctaidd i ti; o herwydd sanctaidd ydwyf fi yr Arglwydd eich sancteiddydd.

9¶ Ac os dechreu merch un offeiriad buteinio, halogi ei thad y mae: llosger hi yn tân.

10A’r offeiriad pennaf o’i frodyr, yr hwn y tywalltwyd olew yr enneiniad ar ei ben, ac a gyssegrwyd i wisgo y gwisgoedd, na ddïosged oddi am ei ben, ac na rwyged ei ddillad:

11Ac na ddeued at gorph un marw, nac ymhaloged am ei dad, nac am ei fam:

12Ac nac aed allan o’r cyssegr, ac na haloged gyssegr ei Dduw; am fod coron olew enneiniad ei Dduw arno ef; myfi yw yr Arglwydd.

13A chymmered efe wraig yn ei morwyndod.

14Gwraig weddw, na gwraig wedi ysgar, nac un halogedig, na phutain; y rhai hyn na chymmered: ond cymmered forwyn o’i bobl ei hun yn wraig.

15Ac na haloged ei had ym mysg ei bobl: canys myfi yw yr Arglwydd ei sancteiddydd ef.

16¶ A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

17Llefara wrth Aaron, gan ddywedyd, Na nesâed un o’th had di trwy eu cenhedlaethau, yr hwn y byddo anaf arno, i offrymmu bara ei Dduw:

18Canys ni chaiff un gwr y byddo anaf arno nesâu; y gwr dall, neu y cloff, neu y trwyndwn, neu y neb y byddo dim gormod ynddo;

19Neu y gwr y byddo iddo droed tẁn, neu law dòn;

20Neu a fyddo yn gefngrwm, neu yn gorr, neu â magl neu bysen ar ei lygad, neu yn grachlyd, neu yn glafrllyd, neu wedi ysigo ei eirin.

21Na nesâed un gwr o had Aaron yr offeiriad, yr hwn y byddo anaf arno, i offrymmu ebyrth tanllyd yr Arglwydd; anaf sydd arno; na nesâed i offrymmu bara ei Dduw.

22Bara ei Dduw, o’r pethau sanctaidd cyssegredig, ac o’r pethau cyssegredig, a gaiff efe ei fwytta.

23Etto nac aed i mewn at y wahanlen, ac na nesâed at yr allor, am fod anaf arno; ac na haloged fy nghyssegroedd: canys myfi yw yr Arglwydd eu sancteiddydd hwynt.

24A llefarodd Moses hynny wrth Aaron ac wrth ei feibion, ac wrth holl feibion Israel.

← Llyfr Lefiticus 20Read In The App, Free →Llyfr Lefiticus 22 →

Study Llyfr Lefiticus 21

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627