Llyfr Lefiticus 22:4
Na fwyttâed neb o hiliogaeth Aaron o’r pethau cyssegredig, ac yntau yn wahan-glwyfus, neu yn ddiferllyd, hyd oni lanhâer ef: na’r hwn a gyffyrddo â dim wedi ei halogi wrth y marw, na’r hwn yr êl oddi wrtho ddisgyniad had;
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Lefiticus 22
Cross References
Leviticus 2:3A bydded gweddill y bwyd-offrwm i Aaron ac i’w feibion: sancteiddbeth o danllyd offrymmau yr Arglwydd ydyw.
Leviticus 6:25Llefara wrth Aaron ac wrth ei feibion, gan ddywedyd, Dyma gyfraith yr aberth dros bechod. Yn y lle y lleddir y poeth-offrwm, y lleddir yr aberth dros bechod ger bron yr Arglwydd: sancteiddiolaf yw efe.
Leviticus 11:39Ac os bydd marw un anifail a’r sydd i chwi yn fwyd; yr hwn a gyffyrddo â’i furgyn ef, a fydd aflan hyd yr hwyr.
Leviticus 13:44Gwr gwahan-glwyfus yw hwnnw, aflan yw; a’r offeiriad a’i barna ef yn llwyr-aflan: yn ei ben y mae ei bla.
Leviticus 14:2Dyma gyfraith y gwahan-glwyfus, y dydd y glanhêir ef. Dyger ef at y offeiriad:
Leviticus 15:13A phan lanhêir y diferllyd oddi wrth ei ddiferlif; yna cyfrifed iddo saith niwrnod i’w lanhâu, a golched ei ddillad, a golched ei gnawd mewn dwfr rhedegog, a glân fydd.