Llyfr Lefiticus 22
1Y gyfraith am fwytta yr aberth dïolch. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
2Llefara wrth Aaron, ac wrth ei feibion, am iddynt ymneillduo oddi wrth bethau cyssegredig meibion Israel, ac na halogant fy enw sanctaidd, yn y pethau y maent yn eu cyssegru i mi: myfi yw yr Arglwydd.
3Dywed wrthynt, Pwy bynnag o’ch holl hiliogaeth, trwy eich cenhedlaethau a nesao at y pethau cyssegredig a gyssegro meibion Israel i’r Arglwydd, a’i aflendid arno; torrir ymaith yr enaid hwnnw oddi ger fy mron: myfi yw yr Arglwydd.
4Na fwyttâed neb o hiliogaeth Aaron o’r pethau cyssegredig, ac yntau yn wahan-glwyfus, neu yn ddiferllyd, hyd oni lanhâer ef: na’r hwn a gyffyrddo â dim wedi ei halogi wrth y marw, na’r hwn yr êl oddi wrtho ddisgyniad had;
5Na’r un a gyffyrddo âg un ymlusgiad, trwy yr hwn y gallo fod yn aflan, neu â dyn y byddai aflan o’i blegid, pa aflendid bynnag fyddo arno:
6A’r dyn a gyffyrddo âg ef, a fydd aflan hyd yr hwyr; ac na fwyttâed o’r pethau cyssegredig, oddi eithr iddo olchi ei gnawd mewn dwfr.
7A phan fachludo’r haul, glân fydd; ac wedi hynny bwyttâed o’r pethau cyssegredig: canys ei fwyd ef yw hwn.
8Ac na fwyttâed o ddim wedi marw ei hun, neu wedi ei ysglyfaethu, i fod yn aflan o’i blegid: myfi yw yr Arglwydd.
9Ond cadwant fy neddf i, ac na ddygant bechod bob un arnynt eu hunain, i farw o’i blegid, pan halogant hi: myfi yw yr Arglwydd eu sancteiddydd hwynt.
10Ac na fwyttâed un alltud o’r peth cyssegredig: dïeithrddyn yr offeiriad, a’r gwas cyflog, ni chaiff fwytta y peth cyssegredig.
11Ond pan bryno yr offeiriad ddyn am ei arian, hwnnw a gaiff fwytta o hono, a’r hwn a aner yn ei dŷ ef: y rhai hyn a gânt fwytta o’i fara ef.
12A merch yr offeiriad, pan; fyddo hi eiddo gwr dieithr, ni chaiff hi fwytta o offrwm y pethau cyssegredig.
13Ond merch yr offeiriad, os gweddw fydd hi, neu wedi ysgar, a heb blant iddi, ac wedi dychwelyd i dŷ ei thad, a gaiff fwytta o fara ei thad, megis yn ei hieuengctid; ac ni chaiff neb dïeithr fwytta o hono.
14¶ A phan fwyttao un beth cyssegredig mewn anwybod; yna chwaneged ei bummed ran atto, a rhodded gyd â’r peth cyssegredig i’r offeiriad.
15Ac na halogant gyssegredig bethau meibion Israel, y rhai a offrymmant i’r Arglwydd.
16Ac na wnant iddynt ddwyn cosp camwedd, pan fwyttaont eu cyssegredig bethau hwynt: o herwydd myfi yw yr Arglwydd eu sancteiddydd.
17¶ A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
18Llefara wrth Aaron, ac wrth ei feibion, ac wrth holl feibion Israel, a dywed wrthynt, Pwy bynnag o dŷ Israel, a ac o ddïeithr yn Israel, a offrymmo ei offwrn yn ol ei holl addunedau, ac yn ol ei holl roddion gwirfodd, y rhai a offrymmant i’r Arglwydd yn boeth-offrwm;
19Offrymmwch wrth eich ewyllys eich hun, un gwrryw perffeith-gwbl, o’r eidionau, o’r defaid, neu o’r geifr.
20Nac offrymmwch ddim y byddo anaf arno; o herwydd ni bydd efe gymmeradwy drosoch.
21A phan offrymmo gwr aberth hedd i’r Arglwydd, gan neillduo ei adduned, neu rodd ewyllysgar o’r eidionau, neu o’r praidd, bydded berffeith-gwbl, fel y byddo gymmeradwy: na fydded un anaf arno.
22Y dall, neu’r ysig, neu’r anafus, neu’r dafadenog, neu y crachlyd, neu y clafrllyd, nac offrymmwch hwy i’r Arglwydd, ac na roddwch aberth tanllyd o honynt ar allor yr Arglwydd.
23A’r eidion, neu yr oen a fyddo gormod neu ry fychain ei aelodau, gellwch ei offrymmu yn offrwrn gwirfodd; ond dros adduned ni bydd cymmeradwy.
24Nac offrymmwch i’r Arglwydd ddim wedi llethu, neu ysigo, neu ddryllio, neu dorri; ac na wnewch yn eich tir y fath beth.
25Ac nac offrymmwch o law un dïeithr fwyd eich Duw o’r holl bethau hyn; canys y mae eu llygredigaeth ynddynt; anaf sydd arnynt: ni byddant gymmeradwy drosoch.
26¶ A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
27Pan aner eidion, neu ddafad, neu afr, bydded saith niwrnod dan ei fam; o’r wythfed dydd ac o hynny allan y bydd cymmeradwy yn offrwm o aberth tanllyd i’r Arglwydd.
28Ac am fuwch neu ddafad, na leddwch hi a’i llwdn yn yr un dydd.
29A phan aberthoch aberth dïolch i’r Arglwydd, offrymmwch wrth eich ewyllys eich hunain.
30Y dydd hwnnw y bwyttêir ef; na weddillwch o hono hyd y bore: myfi yw yr Arglwydd.
31Cedwch chwithau fy ngorchymynion, a gwnewch hwynt: myfi yw yr Arglwydd.
32Ac na halogwch fy enw sanctaidd, ond sancteiddier fi ym mysg meibion Israel: myfi yw yr Arglwydd eich sancteiddydd,
33Yr hwn a’ch dygais chwi allan o dir yr Aipht, i fod yn Dduw i chwi: myfi yw yr Arglwydd.