Llyfr Lefiticus 23:40
A’r dydd cyntaf cymmerwch i chwi ffrwyth pren prydferth, canghennau palmwydd, a brig pren caeadfrig, a helyg afon; ac ymlawenhêwch ger bron yr Arglwydd eich Duw saith niwrnod.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Lefiticus 23
Cross References
Deuteronomy 12:12A llawenhêwch ger bron yr Arglwydd eich Duw; chwi, a’ch meibion, a’ch merched, a’ch gweision, a’ch morwynion, a’r Lefiad a fyddo yn eich pyrth chwi: canys nid oes iddo ran nac etifeddiaeth gyd â chwi.
Nehemiah 8:14A hwy a gawsant yn ysgrifenedig yn y gyfraith, yr hyn a orchmynasai yr ARGLWYDD trwy law Moses, y dylai meibion Israel drigo mewn bythod ar ŵyl y seithfed mis;
Isaiah 35:10A gwaredigion yr ARGLWYDD a ddychwelant, ac a ddeuant i Seion a chaniadau, ac a llawenydd tragwyddol ar eu pen: goddiweddant lawenydd a hyfrydwch, a chystudd a galar a ffy ymaith.
Matthew 21:8A thyrfa ddirfawr a daenasant eu dillad ar y ffordd; eraill a dorasant gangau o’r gwŷdd, ac a’u taenasant ar hyd y ffordd.
John 16:22A chwithau am hynny ydych yr awron mewn tristwch: eithr mi a ymwelaf â chwi drachefn, a’ch calon a lawenycha, a’ch llawenydd ni ddwg neb oddi arnoch.
Philippians 3:3Canys yr enwaediad ydym ni, y rhai ydym yn gwasanaethu Duw yn yr ysbryd, ac yn gorfoleddu yng Nghrist Iesu, ac nid yn ymddiried yn y cnawd: