The Bible Software
Llyfr Lefiticus · Beibl (1620)

Llyfr Lefiticus 23

1Gwyl y pebyll. Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,

2Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Gwyliau yr Arglwydd, y rhai a gyhoeddwch yn gymmanfeydd sanctaidd, ydyw fy ngwyliau hyn.

3Chwe diwrnod y gwneir gwaith; a’r seithfed dydd y bydd Sabbath gorphwystra, sef cymmanfa sanctaidd; dim gwaith nis gwnewch: Sabbath yw efe i’r Arglwydd yn eich holl drigfannau.

4¶ Dyma wyliau yr Arglwydd, y cymmanfeydd sanctaidd, y rhai a gyhoeddwch yn eu tymmor.

5O fewn y mis cyntaf, ar y ped werydd dydd ar ddeg o’r mis, yn y cyfnos, y bydd Pasg yr Arglwydd.

6A’r pymthegfed dydd o’r mis hwnnw y bydd gwyl y bara croyw i’r Arglwydd: saith niwrnod y bwyttêwch fara croyw.

7Ar y dydd cyntaf y bydd i chwi gymmanfa sanctaidd: dim caethwaith ni chewch ei wneuthur.

8Ond offrymmwch ebyrth tanllyd i’r Arglwydd saith niwrnod; ar y seithfed dydd bydded cymmanfa sanctaidd; na wnewch ddim caethwaith.

9¶ A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt,

10Pan ddeloch i’r tir a roddaf i chwi, a medi o honoch ei gynhauaf; yna dygwch ysgub blaen-ffrwyth eich cynhauaf at yr offeiriad.

11Cyhwfaned yntau yr ysgub ger bron yr Arglwydd, i’ch gwneuthur yn gymmeradwy: trannoeth wedi y Sabbath y cyhwfana yr offeiriad hi.

12Ac offrymmwch ar y dydd y cyhwfaner yr ysgub, oen blwydd, perffeith-gwbl, yn boeth-offrwm i’r Arglwydd.

13A’i fwyd-offrwm o ddwy ddegfed o beilliaid wedi ei gymmysgu âg olew, yn aberth tanllyd i’r Arglwydd, yn arogl peraidd; a’i ddïod-offrwm fydd o win, pedwaredd ran hin.

14Bara hefyd, nac ŷd wedi ei grasu, na thywysennau îr, ni chewch eu bwytta hyd gorph y dydd hwnnw, nes dwyn o honoch offrwm eich Duw. Deddf dragywyddol trwy eich cenhedlaethau, yn eich holl drigfannau, fydd hyn.

15¶ A chyfrifwch i chwi o drannoeth wedi y Sabbath, o’r dydd y dygoch ysgub y cyhwfan; saith Sabbath cyflawn fyddant:

16Hyd drannoeth wedi y seithfed Sabbath, y cyfrifwch ddeng niwrnod a deugain; ac offrymmwch fwyd-offrwm newydd i’r Arglwydd.

17A dygwch o’ch trigfannau ddwy dorth gyhwfan, dwy ddegfed ran o beilliaid fyddant: yn lefeinllyd y pobir hwynt, yn flaen-ffrwyth i'r Arglwydd.

18Ac offrymmwch gyd â’r bara saith oen blwyddiaid, perffeith-gwbl, ac un bustach ieuangc, a dau hwrdd: poeth-offrwm i’r Arglwydd fyddant hwy, ynghyd â’u bwyd-offrwm a’u dïod-offrwm; sef aberth tanllyd, o arogl peraidd i'r Arglwydd.

19Yna aberthwch un bwch geifr yn bech-aberth, a dau oen blwyddiaid yn aberth hedd.

20A chyhwfaned yr offeiriad hwynt, ynghyd â bara y blaen-ffrwyth, yn offrwm cyhwfan ger bron yr Arglwydd, ynghyd â'r ddau oen: cyssegredig i’r Arglwydd ac eiddo’r offeiriad fyddant.

21A chyhoeddwch, o fewn corph y dydd hwnnw, y bydd cymmanfa sanctaidd i chwi; dim caethwaith nis gwnewch. Deddf dragywyddol, yn eich holl drigfannau, trwy eich cenhedlaethau, fydd hyn.

22¶ A phan fedoch gynhauaf eich tir, na lwyr-feda gyrrau dy faes, ac na loffa loffion dy gynhauaf; gâd hwynt i’r tlawd a’r dïeithr: myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi.

23¶ A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

24Llefara wrth feibion Israel gan ddywedyd, Ar y seithfed mis, ar y dydd cyntaf o'r mis, y bydd i chwi Sabbath, yn goffadwriaeth caniad udgyrn, a chymmanfa sanctaidd.

25Dim caethwaith nis gwnewch; ond offrymmwch ebyrth tanllyd i’r Arglwydd.

26¶ A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

27Y degfed dydd o’r seithfed mis hwn, y bydd dydd cymmod; cymmanfa sanctaidd fydd i chwi: yna cystuddiwch eich eneidiau, ac offrymmwch ebyrth tanllyd i’r Arglwydd.

28Ac na wnewch ddim gwaith o fewn corph y dydd hwnnw: o herwydd dydd cymmod yw, i wneuthur cymmod drosoch ger bron yr Arglwydd eich Duw.

29Canys pob enaid a’r ni chystuddier o fewn corph y dydd hwn, a dorrir ymaith oddi wrth ei bobl.

30A phob enaid a wnelo ddim gwaith o fewn corph y dydd hwnnw, difethaf yr enaid hwnnw hefyd o fysg ei bobl.

31Na wnewch ddim gwaith. Deddf dragywyddol, trwy eich cenhedlaethau, yn eich holl drigfannau, yw hyn.

32Sabbath gorphwystra yw efe i chwi; cystuddiwch chwithau eich eneidiau ar y nawfed dydd o’r mis, yn yr hwyr: o hwyr i hwyr y cedwch eich Sabbath.

33¶ A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses gan ddywedyd.

34Llefara wrth feibion Israel, gan i ddywedyd, Ar y pymthegfed dydd o’r seithfed mis hwn y bydd gwyl y pebyll saith niwrnod i’r Arglwydd.

35Ar y dydd cyntaf y bydd cymmanfa sanctaidd: dim caethwaith nis gwnewch.

36Saith niwrnod yr offrymmwch aberth tanllyd i’r Arglwydd: ar yr wythfed dydd y bydd cymmanfa sanctaidd i chwi; a chwi a offrymmwch aberth tanllyd i’r Arglwydd: uchel ŵyl yw hi, na wnewch a ddim caethwaith.

37Dyma wyliau yr Arglwydd, y rhai a gyhoeddwch yn gymmanfeydd sanctaidd, i offrymmu i’r Arglwydd aberth tanllyd, offrwm poeth, bwyd-offrwm, aberth, a dïod-offrwm; pob peth yn ei ddydd:

38Heb law Sabbathau yr Arglwydd, ac heb law eich rhoddion chwi, ac heb law eich holl addunedau, ac heb law eich holl offrymmau gwirfodd, a roddoch i’r Arglwydd.

39Ac ar y pymthegfed dydd o’r seithfed mis, pan gynhulloch ffrwyth eich tir, cedwch wyl i’r Arglwydd saith niwrnod: bydded gorphwystra ar y dydd cyntaf, a gorphwystra ar yr wythfed dydd.

40A’r dydd cyntaf cymmerwch i chwi ffrwyth pren prydferth, canghennau palmwydd, a brig pren caeadfrig, a helyg afon; ac ymlawenhêwch ger bron yr Arglwydd eich Duw saith niwrnod.

41A chedwch hon yn wyl i’r Arglwydd saith niwrnod yn y flwyddyn: deddf dragywyddol yn eich cenhedlaethau yw; ar y seithfed mis y cedwch hi yn wyl.

42Mewn bythod yr arhoswch saith niwrnod; pob prïodor yn Israel a drigant mewn bythod:

43Fel y gwypo eich cenhedlaethau chwi mai mewn bythod y perais i feibion Israel drigo, pan ddygais hwynt allan o dir yr Aipht: myfi yw yr Arglwydd eich Duw.

44A thraethodd Moses wyliau yr Arglwydd wrth feibion Israel.

← Llyfr Lefiticus 22Read In The App, Free →Llyfr Lefiticus 24 →

Study Llyfr Lefiticus 23

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627