Llyfr Lefiticus 24:16
A lladder yn farw yr hwn a felldithio enw yr Arglwydd; yr holl gynnulleidfa gan labyddio a’i llabyddiant ef: lladder yn gystal y dïeithr a’r prïodor, pan gablo efe enw yr Arglwydd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
15A llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Pwy bynnag a gablo ei Dduw, a ddwg ei bechod.
17¶ A’r neb a laddo ddyn, lladder yntau yn farw.
Read all of Llyfr Lefiticus 24
Cross References
Exodus 20:7Na chymmer enw yr Arglwydd dy Dduw yn ofer: canys nid dïeuog gan yr Arglwydd yr hwn a gymmero ei enw ef yn ofer.
1 Kings 21:10Cyflewch hefyd ddau ŵr o feibion y fall, gyferbyn âg ef, i dystiolaethu i’w erbyn ef, gan ddywedyd, Ti a geblaist DDUW a’r brenin. Ac yna dygwch efallan, a llabyddiwch ef, fel y byddo efe marw. º
Psalms 74:18Diau osod ohonot hwynt mewn llithrigfa, a chwympo ohonot hwynt i ddinistr.
Matthew 12:31¶ Am hynny y dywedaf wrthych chwi, Pob pechod a chabledd a faddeuir i ddynion: ond cabledd yn erbyn yr Ysbryd Glân ni faddeuir i ddynion.
Mark 3:28Yn wir y dywedaf i chwi, y maddeuir pob pechod i feibion dynion, a pha gabledd bynnag a gablant:
John 10:33Yr Iddewon a atebasant iddo, gan ddywedyd, Nid am weithred dda yr ydym yn dy labyddio, ond am gabledd, ac am dy fod di, a thithau yn ddyn, yn dy wneuthur dy hun yn Dduw.