Llyfr Lefiticus 24
1Llabyddio y cablwr. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
2Gorchymyn i feibion Israel ddwyn attat olew olew-wydden pur, coethedig, i’r goleuni, i beri i’r lampau gynneu bob amser.
3O’r tu allan i wahanlen y dystiolaeth, ym mhabell y cyfarfod, y trefna Aaron ef o hwyr hyd fore, ger bron yr Arglwydd, bob amser. Deddf dragywyddol trwy eich cenhedlaethau fydd hyn.
4Ar y canhwyllbren pur y trefna efe y lampau ger bron yr Arglwydd bob amser.
5¶ A chymmer beilliaid, a phoba ef yn ddeuddeg teisen: dwy ddegfed ran fydd pob teisen.
6A gosod hwynt yn ddwy res, chwech yn y rhes, ar y bwrdd pur, ger bron yr Arglwydd.
7A dod thus pur ar bob rhes, fel y byddo ar y bara, yn goffadwriaeth, ac yn aberth tanllyd i’r Arglwydd.
8Ar bob dydd Sabbath y trefna efe hyn ger bron yr Arglwydd bob amser, yn gyfammod tragywyddol oddi wrth feibion Israel.
9A bydd eiddo Aaron a’i feibion; a hwy a’i bwyty yn y lle sanctaidd: canys sancteiddiolaf yw iddo ef o ebyrth tanllyd yr Arglwydd, trwy ddeddf dragywyddol.
10¶ A mab gwraig o Israel, a hwn yn fab gwr o’r Aipht, a aeth allan ym mysg meibion Israel; a mab yr Israelees a gwr o Israel a ymgynhennasant yn y gwersyll.
11A mab y wraig o Israel a gablodd enw yr Arglwydd, ac a felldigodd: yna y dygasant ef at Moses: ac enw ei fam oedd Selomith, merch Dibri, o lwyth Dan.
12A gosodasant ef y’ngharchar, fel yr hysbysid iddynt o enau yr Arglwydd beth a wnaent.
13A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
14Dwg y cablydd i’r tu allan i’r gwersyll: a rhodded pawb a’i clywsant ef eu dwylaw ar ei ben ef, a llabyddied yr holl gynnulleidfa ef.
15A llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Pwy bynnag a gablo ei Dduw, a ddwg ei bechod.
16A lladder yn farw yr hwn a felldithio enw yr Arglwydd; yr holl gynnulleidfa gan labyddio a’i llabyddiant ef: lladder yn gystal y dïeithr a’r prïodor, pan gablo efe enw yr Arglwydd.
17¶ A’r neb a laddo ddyn, lladder yntau yn farw.
18A’r hwn a laddo anifail, taled am dano; anifail am anifail.
19A phan wnelo un anaf ar ei gymmydog; fel y gwnaeth, gwneler iddo:
20Torriad am dorriad, llygad am lygad, dant am ddant: megis y gwnaeth anaf ar ddyn, felly gwneler iddo yntau.
21A’r hwn a laddo anifail, a dâl am dano: a laddo ddyn, a leddir.
22Bydded un farn i chwi; bydded i’r dïeithr, fel i’r prïodor: myfi ydwyf yr Arglwydd eich Duw.
23¶ A mynegodd Moses hyn i feibion Israel: a hwynt a ddygasant y cablydd i’r tu allan i’r gwersyll, ac a’i llabyddiasant ef â cherrig. Felly meibion Israel a wnaethant megis y gorchymynodd yr Arglwydd wrth Moses.