Llyfr Lefiticus 26:16
Minnau hefyd a wnaf hyn i chwi: i gosodaf yn oruchaf arnoch ddychryn, darfodedigaeth, a’r cryd poeth, y rhai a wna i’r llygaid ballu, ac a ofidiant eich eneidiau: a heuwch eich had yn ofer, canys eich gelynion a’i bwytty:
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Lefiticus 26
Cross References
Deuteronomy 28:21Yr Arglwydd a wna i haint lynu wrthyt, nes iddo dy ddifa oddi ar y tir yr ydwyt ti yn myned iddo i’w feddiannu.
Deuteronomy 28:51A hi a fwytty ffrwyth dy anifeiliaid, a ffrwyth dy ddaear, hyd oni’th ddinystrier: yr hon ni âd i ti ŷd, gwin, nac olew, cynnydd dy wartheg, na dïadellau dy ddefaid, hyd oni’th ddifetho di.
Deuteronomy 32:25Y cleddyf oddi allan, a dychryn oddi fewn, a ddifetha y gwr ieuangc a’r wyryf hefyd, y plentyn sugno ynghyd â’r gŵr briglwyd.
Judges 6:11Ac angel yr ARGLWYDD a ddaeth, ac a eisteddodd dan dderwen oedd yn Offra, yr hon oedd eiddo Joas yr Abiesriad: a Gedeon ei fab ef oedd yn dyrnu gwenith wrth y gwinwryf, i’w guddio rhag y Midianiaid.
Job 15:20Holl ddyddiau yr annuwiol y bydd efe yn ymofidio: a rhifedi y blynyddoedd a guddiwyd oddi wrth y traws.
Job 20:25Efe a dynnir, ac a ddaw allan o’r corff, a gloywlafn a ddaw allan o’i fustl ef; dychryn fydd arno.