Llyfr Lefiticus 26
1Duw yn addaw cofio y rhai edifarhânt. Na wnewch eilunod i chwi, ac na chodwch i chwi ddelw gerfiedig, na cholofn, ac na roddwch ddelw faen yn eich tir i ymgrymu iddi: canys myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi.
2Fy Sabbathau i a gedwch, a’m cyssegr i a berchwch: myfi ydwyf yr Arglwydd.
3¶ Os yn fy neddfau i y rhodiwch, a’m gorchymynion a gedwch, a’u gwneuthur hwynt;
4Yna mi a roddaf eich gwlaw yn ei amser, a rhydd y ddaear ei chynnyrch, a choed y maes a rydd eu ffrwyth.
5A’ch dyrnu a gyrhaedd hyd gynhauaf y grawnwin, a chynhauaf y grawnwin a gyrraedd hyd amser hau; a’ch bara a fwyttêwch yn ddigonol, ac yn eich tir y trigwch yn ddïogel.
6Rhoddaf heddwch hefyd yn y tir, a gorweddwch hefyd heb ddychrynydd: a gwnaf i’r bwystfil niweidiol ddarfod o’r tir; ac nid â cleddyf trwy eich tir.
7Eich gelynion hefyd a erlidiwch, a syrthiant o’ch blaen ar y cleddyf.
8A phump o honoch a erlidia gant, a chant o honoch a erlidia ddengmil; a’ch gelynion a syrth o’ch blaen ar y cleddyf.
9A mi a edrychaf am danoch, ac a’ch gwnaf yn ffrwythlon, ac a’ch amlhâf, ac a gadarnhâf fy nghyfammod â chwi.
10A’r hen ystôr a fwyttêwch, ïe, yr hen a fwriwch chwi allan o achos y newydd.
11Rhoddaf hefyd fy nhabernacl yn eich mysg; ac ni ffieiddia fy enaid chwi.
12A mi a rodiaf yn eich plith; a byddaf yn Dduw i chwi, a chwithau a fyddwch yn bobl i mi.
13Myfi yw yr Arglwydd eich Duw, yr hwn a’ch dygais chwi allan o dir yr Aipht, rhag eich bod yn gaeth-weision iddynt; a thorrais rwymau eich iau, a gwneuthum i chwi rodio yn sythion.
14¶ Ond os chwi ni wrandêwch arnaf, ac ni wnewch yr holl orchymynion hyn;
15Os fy neddfau hefyd a ddirmygwch, ac os eich enaid a ffieiddia fy marnedigaethau, heb wneuthur fy holl orchymynion, ond torri fy nghyfammod;
16Minnau hefyd a wnaf hyn i chwi: i gosodaf yn oruchaf arnoch ddychryn, darfodedigaeth, a’r cryd poeth, y rhai a wna i’r llygaid ballu, ac a ofidiant eich eneidiau: a heuwch eich had yn ofer, canys eich gelynion a’i bwytty:
17Ac a osodaf fy wyneb i’ch erbyn, a chwi a syrthiwch o flaen eich gelynion; a’ch caseion a feistrola arnoch; ffowch hefyd pan na byddo neb yn eich erlid.
18Ac os er hyn ni wrandêwch arnaf, yna y chwanegaf eich cospi chwi saith mwy am eich pechodau.
19A mi a dorraf falchder eich nerth chwi; a gwnaf eich nefoedd chwi fel haiarn, a’ch tir chwi fel pres:
20A’ch cryfder a dreulir yn ofer: canys eich tir ni rydd ei gynnyrch, a choed y tir ni roddant eu ffrwyth.
21¶ Ac os rhodiwch y’ngwrthwyneb i mi, ac ni fynnwch wrando arnaf fi; mi a chwanegaf bla saith mwy arnoch yn ol eich pechodau.
22Ac anfonaf fwystfil y maes yn eich erbyn, ac efe a’ch gwna chwi yn ddiblant, ac a ddifetha eich anifeiliaid, ac a’ch lleihâ chwi; a’ch ffyrdd a wneir yn anialwch.
23Ac os wrth hyn ni chymmerwch ddysg gennyf, ond rhodio yn y gwrthwyneb i mi;
24Yna y rhodiaf finnau yn y gwrthwyneb i chwithau, a mi a’ch cospaf chwi hefyd etto yn saith mwy am eich pechodau.
25A dygaf arnoch gleddyf, yr hwn a ddïal fy nghyfammod: a phan ymgasgloch i’ch dinasoedd, yna yr anfonaf haint i’ch mysg; a chwi a roddir yn llaw y gelyn.
26A phan dorrwyf ffon eich bara, yna deg o wragedd a bobant eich bara mewn un ffwrn, ac a ddygant eich bara adref dan bwys: a chwi a fwyttêwch, ac nis digonir chwi.
27Ac os er hyn ni wrandêwch arnaf, ond rhodio y’ngwrthwyneb i mi;
28Minnau a rodiaf y’ngwrthwyneb i chwithau mewn llid; a myfi, ïe myfi, a’ch cospaf chwi etto saith mwy am eich pechodau.
29A chwi a fwyttêwch gnawd eich meibion, a chnawd eich merched a fwyttêwch.
30Eich uchelfeydd hefyd a ddinystriaf, ac a dorraf eich delwau, ac a roddaf eich celaneddau chwi ar gelaneddau eich eilunod, a’m henaid a’ch ffieiddia chwi.
31A gwnaf eich dinasoedd yn anghyfannedd, ac a ddinystriaf eich cyssegroedd, ac ni aroglaf eich aroglau peraidd.
32A mi a ddinystriaf y tir; fel y byddo aruthr gan eich gelynion, y rhai a drigant ynddo, o’i herwydd.
33Chwithau a wasgaraf ym mysg y cenhedloedd, a gwnaf dynnu cleddyf ar eich ol; a’ch tir fydd ddiffaethwch, a’ch dinasoedd yn anghyfannedd.
34Yna y mwynhâ y tir ei Sabbathau yr holl ddyddiau y byddo yn ddiffaethwch, a chwithau a fyddwch yn nhir eich gelynion; yna y gorphwys y tir, ac y mwynhâ ei Sabbathau.
35Yr holl ddyddiau y byddo yn ddiffaethwch y gorphwys; o herwydd na orphwysodd ar eich Sabbathau chwi, pan oeddych yn trigo ynddo.
36A’r hyn a weddillir o honoch, dygaf lesgedd ar eu calonnau yn nhir eu gelynion; a thrwst deilen yn ysgwyd a’u herlid hwynt; a ffoant fel ffoi rhag cleddyf; a syrthiant hefyd heb neb yn eu herlid.
37A syrthiant bawb ar ei gilydd, megis o flaen cleddyf, heb neb yn eu herlid: ac ni ellwch sefyll o flaen eich gelynion.
38Difethir chwi hefyd ym mysg y cenhedloedd, a thir eich gelynion a’ch bwytty.
39A’r rhai a weddillir o honoch, a doddant yn eu hanwireddau yn nhir eich gelynion; ac yn anwireddau eu tadau gyd â hwynt y toddant.
40Os cyffesant eu hanwiredd, ac anwiredd eu tadau, ynghyd â’u camwedd yr hwn a wnaethant i’m herbyn, a hefyd rhodio o honynt yn y gwrthwyneb i mi,
41A rhodio o honof finnau yn eu gwrthwyneb hwythau, a’u dwyn hwynt i dir eu gelynion, os yno yr ymostwng eu calon ddïenwaededig, a’u bod yn foddlawn am eu cospedigaeth:
42Minnau a gofiaf fy nghyfammod â Jacob, a’m cyfammod hefyd âg Isaac, a’m cyfammod hefyd âg Abraham a gofiaf, ac a gofiaf y tir hefyd.
43A’r tir a adewir ganddynt, ac a fwynhâ ei Sabbathau, tra fyddo yn ddiffaethwch hebddynt: a hwythau a foddlonir am eu cospedigaeth; o achos ac o herwydd dirmygu o honynt fy marnedigaethau, a ffieiddio o’u henaid fy neddfau.
44Ac er hyn hefyd, pan fyddont yn nhir eu gelynion, nis gwrthodaf ac ni ffieiddiaf hwynt i’w difetha, gan dorri fy nghyfammod â hwynt: o herwydd myfi ydyw yr Arglwydd eu Duw hwynt.
45Ond cofiaf er eu mwyn gyfammod y rhai gynt, y rhai a ddygais allan o dir yr Aipht y’ngolwg y cenhedloedd, i fod iddynt yn Dduw: myfi ydwyf yr Arglwydd.
46Dyma y deddfau, a’r barnedigaethau, a’r cyfreithiau, y rhai a roddodd yr Arglwydd rhyngddo ei hun a meibion Israel, ym mynydd Sinai, trwy law Moses.