Llyfr Lefiticus 26:43
A’r tir a adewir ganddynt, ac a fwynhâ ei Sabbathau, tra fyddo yn ddiffaethwch hebddynt: a hwythau a foddlonir am eu cospedigaeth; o achos ac o herwydd dirmygu o honynt fy marnedigaethau, a ffieiddio o’u henaid fy neddfau.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Lefiticus 26
Cross References
Leviticus 26:30Eich uchelfeydd hefyd a ddinystriaf, ac a dorraf eich delwau, ac a roddaf eich celaneddau chwi ar gelaneddau eich eilunod, a’m henaid a’ch ffieiddia chwi.
Leviticus 26:41A rhodio o honof finnau yn eu gwrthwyneb hwythau, a’u dwyn hwynt i dir eu gelynion, os yno yr ymostwng eu calon ddïenwaededig, a’u bod yn foddlawn am eu cospedigaeth:
2 Kings 17:7Felly y bu, am i feibion Israel bechu yn erbyn yr ARGLWYDD eu Duw, yr hwn a’u dygasai hwynt i fyny o wlad yr Aifft, oddi tan law Pharo brenin yr Aifft, ac am iddynt ofni duwiau dieithr, º
2 Chronicles 36:14Holl dywysogion yr offeiriaid hefyd, a’r bobl, a chwanegasant gamfucheddu, yn ôl holl ffieidd-dra’r cenhedloedd; a hwy a halogasant dŷ yr ARGLWYDD, yr hwn a sancteiddiasai efe yn Jerwsalem.
Job 5:17Wele, gwyn ei fyd y dyn a geryddo Duw; am hynny na ddiystyra gerydd yr Hollalluog.
Psalms 50:15Eto DUW a wared fy enaid i o feddiant uffern: canys efe a’m derbyn i. Sela.