Llyfr Lefiticus 27:3
A bydd dy bris, am wrryw o fab ugain mlwydd hyd fab tri ugain mlwydd, ïe, bydd dy bris ddeg sicl a deugain o arian, yn ol sicl y cyssegr.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
4Ac os benyw fydd, bydded dy bris ddeg sicl ar hugain.
Read all of Llyfr Lefiticus 27
Cross References
Exodus 30:13Hyn a ddyry pob un a elo dan rif. Hanner sicl, yn ol sicl y cyssegr: ugain gerah yw y sicl: hanner sicl fydd yn offrwm i’r Arglwydd.
Leviticus 5:15Os gwna dyn gamwedd, a phechu trwy amryfusedd, yn y pethau a gyssegrwyd i’r Arglwydd; yna dyged i’r Arglwydd dros ei gamwedd, hwrdd perffeith-gwbl o’r praidd, gyd â’th bris di o siclau arian, yn ol sicl y cyssegr, yn aberth dros gamwedd.
Leviticus 27:14¶ A phan sancteiddio gwr ei dŷ yn sanctaidd i’r Arglwydd; yna yr offeiriad a’i prisia, os da os drwg fydd: megis y prisio’r offeiriad ef, felly y saif.
Numbers 3:47Cymmer bùm sicl am bob pen; yn ol sicl y cyssegr y cymmeri. Ugain gerah fydd y sicl.
2 Kings 12:4A Joas a ddywedodd wrth yr offeiriaid, Holl arian y pethau cysegredig a ddyger i mewn i dŷ yr ARGLWYDD, arian y gŵr a gyniweirio, arian gwerth eneidiau pob un, a’r holl arian a glywo neb ar ei galon eu dwyn i mewn i dŷ yr ARGLWYDD-S º