The Bible Software
Llyfr Lefiticus · Beibl (1620)

Llyfr Lefiticus 27

1Nid rhydd newid y degwm. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

2Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Pan addunedo neb adduned neillduol, y dynion fydd eiddo yr Arglwydd, yn dy bris di.

3A bydd dy bris, am wrryw o fab ugain mlwydd hyd fab tri ugain mlwydd, ïe, bydd dy bris ddeg sicl a deugain o arian, yn ol sicl y cyssegr.

4Ac os benyw fydd, bydded dy bris ddeg sicl ar hugain.

5Ac o fab pùm mlwydd hyd fab ugain mlwydd, bydded dy bris am wrryw ugain sicl, ac am fenyw ddeg sicl.

6A bydded hefyd dy bris am wrryw o fab misyriad hyd fab pùm mlwydd, bùm sicl o arian; ac am fenyw dy bris fydd tri sicl o arian.

7Ac o fab tri ugeinmlwydd ac uchod, os gwrryw fydd, bydded dy bris bymtheg sicl, ac am fenyw ddeg sicl.

8Ond os tlottach fydd efe na’th bris di, yna safed ger bron yr offeiriad, a phrisied yr offeiriad ef: yn ol yr hyn a gyrhaeddo llaw yr addunedydd, felly y prisia yr offeiriad ef.

9¶ Ond os anifail, yr hwn yr offrymmir o hono offrwm i’r Arglwydd, fydd ei adduned; yr hyn oll a roddir o’r cyfryw i’r Arglwydd, sanctaidd fydd.

10Na rodded un arall am dano, ac na newidied ef, y da am y drwg, neu y drwg am y da: ac os gan newidio y newidia i anifail am anifail; bydded hwnnw a bydded ei gyfnewid hefyd yn sanctaidd,

11Ac os adduneda efe un anifail aflan, yr hwn ni ddylent offrymmu o hono offrwm i’r Arglwydd; yna rhodded yr anifail i sefyll ger bron yr offeiriad:

12A phrisied yr offeiriad ef, os da os drwg fydd: fel y prisiech di yr offeiriad ef, felly y bydd.

13Ac os efe gan brynu a’i pryn; yna rhodded at dy bris di ei bummed ran yn ychwaneg.

14¶ A phan sancteiddio gwr ei dŷ yn sanctaidd i’r Arglwydd; yna yr offeiriad a’i prisia, os da os drwg fydd: megis y prisio’r offeiriad ef, felly y saif.

15Ac os yr hwn a’i sancteiddiodd ollwng ei dŷ yn rhydd; yna rhodded bummed ran arian dy bris yn ychwaneg atto, a bydded eiddo ef.

16¶ Ac os o faes ei etifeddiaeth y sancteiddia gwr i’r Arglwydd; yna bydded dy bris yn ol ei hauad: hauad homer o haidd fydd er deg sicl a deugain o arian.

17Os o flwyddyn y jubili y sancteiddia efe ei faes, yn ol dy bris di y saif.

18Ond os wedi’r jubili y sancteiddia efe ei faes; yna dogned yr offeiriad yr arian iddo, yn ol y blynyddoedd fyddant yn ol, hyd flwyddyn y jubili, a lleihâer dy bris di.

19Ac os yr hwn a’i sancteiddiodd gan brynu a bryn y maes; yna rhodded bumed ran arian dy bris di yn ychwaneg atto, a bydded iddo ef.

20Ac onis gollwng y maes, neu os gwerthodd y maes i wr arall, ni cheir ei ollwng mwy.

21A’r maes fydd, pan elo efe allan yn y jubili, yn gyssegredig i’r Arglwydd, fel maes dïofryd: a bydded yn feddiant i’r offeiriad.

22Ac os ei dir pryn, yr hwn ni bydd o dir ei etifeddiaeth, a sancteiddia efe i’r Arglwydd,

23Yna cyfrifed yr offeiriad iddo ddogn dy bris di hyd flwyddyn y jubili, a rhodded yntau dy bris di yn gyssegredig i’r Arglwydd, y dydd hwnnw.

24Y maes a â yn ei ol, flwyddyn y jubili, i’r hwn y prynasid ef ganddo, sef yr hwn oedd eiddo etifeddiaeth y tir.

25A phob pris i ti fydd wrth sicl y cyssegr: ugain gerah fydd y sicl.

26¶ Ond y cyntaf-anedig o anifail, yr hwn sydd flaen-ffrwyth i’r arglwydd, na chyssegred neb ef, pa un bynnag ai eidion ai dafad fyddo: eiddo yr Arglwydd yw efe.

27Ond os ei adduned ef fydd o anifail aflan; yna rhyddhâed ef yn dy bris di, a rhodded ei bummed ran yn ychwaneg atto: ac onis rhyddhâ, yna gwerther ef yn dy bris di.

28¶ Ond pob dïofryd-beth a ddïofrydo un i’r Arglwydd, o’r hyn oll a fyddo eiddo ef, o ddyn neu o anifail, neu o faes ei etifeddiaeth, ni werthir, ac ni ryddhêir: pob dïofryd-beth sydd sancteiddiolaf i’r Arglwydd.

29Ni cheir gollwng yn rhydd un anifail dïofrydog, yr hwn a ddïofryder gan ddyn: lladder yn farw.

30¶ A holl ddegwm y tir, o had y tir, ac o ffrwyth y coed, yr Arglwydd a’u pïau: cyssegredig i’r Arglwydd yw.

31Ac os gwr gan brynu a bryn ddim o’i ddegwm, rhodded ei bumed ran yn ychwaneg atto.

32A phob degwm eidion, neu ddafad, yr hyn oll a elo dan y wialen; y degfed fydd cyssegredig i’r Arglwydd.

33Nac edryched pa un ai da ai drwg fydd efe, ac na newidied ef: ond os gan newidio y newidia efe hwnnw, bydded hwnnw a bydded ei gyfnewid ef hefyd yn gyssegredig, ni ellir ei ollwng yn rhydd.

34Dyma’r gorchymynion a orchymynnodd yr Arglwydd wrth Moses, i feibion Israel, ym mynydd Sinai.

← Llyfr Lefiticus 26Read In The App, Free →Numbers 1 →

Study Llyfr Lefiticus 27

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627