Llyfr Lefiticus 4:3
Os offeiriad enneiniog a becha yn ol pechod y bobl; offrymmed, dros ei bechod a wnaeth, fustach ieuangc perffeith-gwbl, yn aberth dros bechod i’r Arglwydd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 29:14Ond cig y bustach, a’i groen, a’i fiswail, a losgi mewn tân, o’r tu allan i’r gwersyll: aberth dros bechod yw.
Exodus 30:10A gwnaed Aaron gymmod ar ei chyrn hi unwaith yn y flwyddyn, â gwaed pech-aberth y cymmod: unwaith yn y flwyddyn y gwna efe gymmod arni trwy eich cenhedlaethau; sancteiddiolaf i’r Arglwydd yw hi.
Leviticus 1:10¶ Ac os o’r praidd, sef o’r defaid, neu o’r geifr, yr offrymma efe boeth-offrwm; offrymmed ef yn wrryw perffeith-gwbl.
Leviticus 5:6A dyged i’r Arglwydd ei offrwm dros gamwedd am ei bechod yr hwn a bechodd; sef benyw o’r praidd, oen neu fỳn gafr, yn aberth dros bechod; a gwnaed yr offeiriad gymmod drosto am ei bechod.
Leviticus 8:12Ac efe a dywalltodd o olew yr enneiniad ar ben Aaron, ac a’i henneiniodd ef, i’w gyssegru.
Leviticus 9:3Llefarodd hefyd wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Cymmerwch fyn gafr, yn aberth dros bechod; a llo, ac oen, biwyddiaid, perffeith-gwbl, yn boeth-offrwm;