Llyfr Lefiticus 4
1neu y bobl, mewn anwybod. Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,
2Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Pan becho dyn mewn anwybod yn erbyn yr un o orchymynion yr Arglwydd, a gwneuthur yn erbyn un o honynt y pethau ni ddylid eu gwneuthur:
3Os offeiriad enneiniog a becha yn ol pechod y bobl; offrymmed, dros ei bechod a wnaeth, fustach ieuangc perffeith-gwbl, yn aberth dros bechod i’r Arglwydd.
4A dyged y bustach i ddrws pabell y cyfarfod, ger bron yr Arglwydd, a gosoded ei law ar ben y bustach, a lladded y bustach ger bron yr Arglwydd.
5A chymmered yr offeiriad enneiniog o waed y bustach, a dyged ef i babell y cyfarfod.
6A throched yr offeiriad ei fys yn y gwaed, a thaenelled o’r gwaed ger bron yr Arglwydd seithwaith, o flaen gwahanlen y cyssegr.
7A gosoded yr offeiriad beth o’r gwaed ger bron yr Arglwydd ar gyrn allor yr arogl-darth peraidd, yr hon sydd ym mhabell y cyfarfod; a thywallted holl waed arall y bustach wrth droed allor y poethoffrwm, yr hon sydd wrth ddrws pabell y cyfarfod.
8A thynned holl wer bustach yr aberth dros bechod oddi wrtho; y weren fol, a’r holl wer fyddo ar y perfedd;
9A’r ddwy aren, a’r gwer a fyddo arnynt, hyd y tenewyn, a’r rhwyden oddi ar yr afu, a dỳn efe ymaith, ynghyd â’r arennau;
10Megis y tynnodd o fustach yr aberth hedd: a llosged yr offeiriad hwynt ar allor y poethoffrwm.
11Ond croen y bustach, a’i holl gig, ynghyd â’i ben, a’i draed, a’i berfedd, a’i fiswail,
12A’r holl fustach hefyd, a ddwg efe allan i’r tu allan i’r gwersyll, i le glân, wrth dywalltfa y lludw; ac a’i llysg ar goed yn tân; wrth dywalltfa y lludw y llosgir ef.
13¶ Ac os holl gynnulleidfa Israel a becha mewn anwybod, a’r peth yn guddiedig o olwg y gynnulleidfa, a gwneuthur o honynt yn erbyn yr un o orchymynion yr Arglwydd, ddim o’r hyn ni ddylid eu gwneuthur, a myned yn euog:
14Pan wypir y pechod y pechasant ynddo; yna offrymmed y gynnulleidfa fustach ieuangc dros y pechod, a dygant ef o flaen pabell y cyfarfod.
15A gosoded henuriaid y gynnulleidfa eu dwylaw ar ben y bustach ger bron yr Arglwydd, a lladdant y bustach ger bron yr Arglwydd.
16A dyged yr offeiriad enneiniog o waed y bustach i babell y cyfarfod.
17A throched yr offeiriad ei fys yn y gwaed, a thaenelled ger bron yr Arglwydd seithwaith, o flaen y wahanlen.
18A gosoded o’r gwaed ar gyrn yr allor sydd ger bron yr Arglwydd, sef yr hon sydd ym mhabell y cyfarfod; a thywallted yr holl waed arall wrth waelod allor y poeth-offrwm, yr hon sydd wrth ddrws pabell y cyfarfod.
19A thynned ei holl wer allan o hono, a llosged ar yr allor.
20A gwnaed i’r bustach hwn megis y gwnaeth i fustach y pech-aberth; felly gwnaed iddo: a’r offeiriad a wna gymmod drostynt; ac fe a faddeuir iddynt.
21A dyged y bustach allan i’r tu allan i’r gwersyll, a llosged ef fel y llosgodd y bustach cyntaf. Dyma aberth dros bechod y gynnulleidfa.
22¶ Os pecha pennaeth, a gwneuthur mewn anwybod yn erbyn yr un o orchymynion yr Arglwydd ei Dduw, ddim o’r hyn ni ddylid eu gwneuthur, a bod yn euog;
23Neu os daw i wybod ei fai yr hwn a wnaeth: dyged ei offrwm o lwdn gafr gwryw perffeith-gwbl.
24A gosoded ei law ar ben y llwdn, a lladded ef yn y lle y lleddir y poeth-offrwm, ger bron yr Arglwydd. Dyma aberth dros bechod.
25A chymmered yr offeiriad o waed yr aberth dros bechod â’i fys, a gosoded ar gyrn allor y poeth-offrwm, a thywallted ei waed ef wrth waelod allor y poeth-offrwm.
26A llosged ei holl wer ar yr allor, fel gwer yr aberth hedd: a gwnaed yr offeiriad gymmod drosto am ei bechod; a maddeuir iddo.
27Ac os pecha neb o bobi y wlad mewn anwybod, gan wneuthur yn erbyn yr un o orchymynion yr Arglwydd, ddim o’r pethau ni ddylid eu gwneuthur, a bod yn euog;
28Neu os ei bechod yr hwn a bechodd a ddaw i’w wybodaeth ef: yna dyged ei offrwm o lwdn gafr fenyw berffeith-gwbl dros ei bechod a bechodd efe.
29A gosoded ei law ar ben yr aberth dros bechod, a lladded yr aberth dros bechod yn y lle y lleddir y poeth-offrwm.
30A chymmered yr offeiriad o’i gwaed hi â’i fys, a rhodded ar gyrn allor y poeth-offrwrm, a thywallted ei holl waed hi wrth waelod yr allor.
31A thynned ei holl wer hi, fel y tynnir y gwer oddi ar yr aberth hedd; a llosged yr offeiriad ef ar yr allor, yn arogl peraidd i’r Arglwydd: a gwnaed yr offeiriad, gymmod drosto; a maddeuir iddo.
32Ac os dwg efe ei offrwm dros bechod o oen, dyged hi yn fenyw berffeith-gwbl.
33A gosoded ei law ar ben yr aberth dros bechod, a lladded hi dros bechod yn y lle y lleddir y poeth-offrwm.
34A chymmered yr offeiriad â’i fys o waed yr aberth dros bechod, a gosoded ar gyrn allor y poeth-offrwm, a thywallted ei holl waed hi wrth waelod yr allor.
35A thynned ei holl wer hi, fel y tynnir gwer oen yr aberth hedd; a llosged yr offeiriad hwynt ar yr allor, fel aberth tanllyd i’r Arglwydd: a gwnaed yr offeiriad gymmod drosto am ei bechod yr hwn a bechodd; a maddeuir iddo.