Llyfr Lefiticus 4:31
A thynned ei holl wer hi, fel y tynnir y gwer oddi ar yr aberth hedd; a llosged yr offeiriad ef ar yr allor, yn arogl peraidd i’r Arglwydd: a gwnaed yr offeiriad, gymmod drosto; a maddeuir iddo.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
32Ac os dwg efe ei offrwm dros bechod o oen, dyged hi yn fenyw berffeith-gwbl.
Cross References
Genesis 8:21A’r Arglwydd a aroglodd arogl esmwyth; a dywedodd yr Arglwydd yn ei galon, Ni chwanegaf felldithio y ddaear mwy er mwyn dyn: o herwydd bod bryd calon dyn yn ddrwg o’i ieuengctid: ac ni chwanegaf mwy daro pob peth byw, fel y gwneuthum.
Leviticus 1:9Ond ei berfedd a’i draed a ylch efe mewn dwfr: a’r offeiriad a lysg y cwbl ar yr allor, yn boeth-offrwm, yn aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd.
Leviticus 1:17Hollted ef, a’i esgyll hefyd; etto na wahaned ef: a llosged yr offeiriad ef ar yr coed a fyddant ar y tân. Dyma boethoffrwm, aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd.
Leviticus 3:9Ac offrymmed o’r aberth hedd yn aberth tanllyd i’r Arglwydd; ei weren, a’r gloren i gyd: torred hi ymaith wrth asgwrn y cefn, ynghyd â’r weren fol, a’r holl wer a fyddo ar y perfedd;
Leviticus 3:15A’r ddwy aren, a’r gwer a fyddo arnynt, hyd y tenewyn, a’r rhwyden oddi ar yr afu, ynghyd â’r arennau, a dỳn efe ymaith.
Leviticus 4:19A thynned ei holl wer allan o hono, a llosged ar yr allor.