Llyfr Lefiticus 4:35
A thynned ei holl wer hi, fel y tynnir gwer oen yr aberth hedd; a llosged yr offeiriad hwynt ar yr allor, fel aberth tanllyd i’r Arglwydd: a gwnaed yr offeiriad gymmod drosto am ei bechod yr hwn a bechodd; a maddeuir iddo.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Leviticus 4:20A gwnaed i’r bustach hwn megis y gwnaeth i fustach y pech-aberth; felly gwnaed iddo: a’r offeiriad a wna gymmod drostynt; ac fe a faddeuir iddynt.
Leviticus 4:30A chymmered yr offeiriad o’i gwaed hi â’i fys, a rhodded ar gyrn allor y poeth-offrwrm, a thywallted ei holl waed hi wrth waelod yr allor.
Leviticus 5:10A’r ail a wna efe yn offrwm poeth, yn ol y ddefod: a’r offeiriad a wna gymmod drosto am ei bechod yr hwn a bechodd; a maddeuir iddo.
Leviticus 6:7A gwnaed yr offeiriad gymmod drosto ger bron yr Arglwydd: a maddeuir iddo, am ba beth bynnag a wnaeth, i fod yn euog o hono.
Leviticus 12:8Ac os ei llaw ni chyrhaedd werth oen, yna cymmered ddwy durtur, neu ddau gyw colommen; y naill yn offrwm poeth, a’r llall yn aberth dros bechod: a gwnaed yr offeiriad gymmod drosti; a glân fydd.
Leviticus 14:53A gollynged yr aderyn byw allan o’r ddinas ar wyneb y maes, a gwnaed gymmod dros y tŷ; a glân fydd.