Llyfr Lefiticus 4:7
A gosoded yr offeiriad beth o’r gwaed ger bron yr Arglwydd ar gyrn allor yr arogl-darth peraidd, yr hon sydd ym mhabell y cyfarfod; a thywallted holl waed arall y bustach wrth droed allor y poethoffrwm, yr hon sydd wrth ddrws pabell y cyfarfod.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 29:12A chymmer o waed y bustach, a dod ar gyrn yr allor â’th fys; a thywallt yr holl waed arall wrth droed yr allor.
Exodus 30:10A gwnaed Aaron gymmod ar ei chyrn hi unwaith yn y flwyddyn, â gwaed pech-aberth y cymmod: unwaith yn y flwyddyn y gwna efe gymmod arni trwy eich cenhedlaethau; sancteiddiolaf i’r Arglwydd yw hi.
Leviticus 4:18A gosoded o’r gwaed ar gyrn yr allor sydd ger bron yr Arglwydd, sef yr hon sydd ym mhabell y cyfarfod; a thywallted yr holl waed arall wrth waelod allor y poeth-offrwm, yr hon sydd wrth ddrws pabell y cyfarfod.
Leviticus 4:34A chymmered yr offeiriad â’i fys o waed yr aberth dros bechod, a gosoded ar gyrn allor y poeth-offrwm, a thywallted ei holl waed hi wrth waelod yr allor.
Leviticus 8:15Ac efe a’i lladdodd: a Moses a gymmerth y gwaed, ac a’i rhoddes ar gyrn yr allor o amgylch â’i fys, ac a burodd yr allor; ac a dywalltodd y gwaed wrth waelod yr allor, ac a’i cyssegrodd hi, i wneuthur cymmod arni.
Leviticus 16:18Ac aed efe allan at yr allor sydd ger bron yr Arglwydd, a gwnaed gymmod arni; a chymmered o waed y bustach, ac o waed y bwch, a rhodded ar gyrn yr allor oddi amgylch.