Llyfr Lefiticus 5:11
¶ Ac os ei law ni chyrhaedd ddwy durtur, neu ddau gyw colommen; yna dyged yr hwn a bechodd ei offrwm o ddegfed ran ephah o beilliaid yn aberth dros bechod: na osoded olew ynddo, ac na rodded thus arno; canys aberth dros bechod yw.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 16:36A’r omer ydoedd ddegfed ran ephah.
Leviticus 2:4¶ Hefyd pan offrymmech fwyd-offrwm, wedi ei bobi mewn ffwrn, teisen beilliaid groyw, wedi ei chymmysgu trwy olew, neu afrllad croyw wedi eu heneinio âg olew, a fydd.
Leviticus 5:6A dyged i’r Arglwydd ei offrwm dros gamwedd am ei bechod yr hwn a bechodd; sef benyw o’r praidd, oen neu fỳn gafr, yn aberth dros bechod; a gwnaed yr offeiriad gymmod drosto am ei bechod.
Leviticus 5:12A dyged hynny at yr offeiriad: a chymmered yr offeiriad o hono lonaid ei law yn goffadwriaeth, a llosged ar yr allor, fel ebyrth tanllyd i’r Arglwydd. Dyma aberth dros bechod.
Leviticus 14:21Ond os tlawd fydd, a’i law heb gyrhaeddyd hyn; yna cymmered un oen, yn aberth dros gamwedd, i’w gyhwfanu, i wneuthur cymmod drosto, ac un ddegfed ran o beilliaid wedi ei gymmysgu trwy olew yn fwyd-offrwm, a log o olew;
Numbers 5:15Yna dyged y gwr ei wraig at yr offeiriad, a dyged ei hoffrwm drosti hi, degfed ran ephah o flawd haidd: na thywallted olew arno, ac na rodded thus arno; canys offrwm eiddigedd yw, offrwm côf yn coffâu anwiredd.