The Bible Software
Llyfr Lefiticus · Beibl (1620)

Llyfr Lefiticus 5

1ac mewn pechodau o anwybod. Os pecha dyn, a chlywed llais llw, ac yntau yn dyst, naill ai yn gweled ai yn gwybod; oni fynega, yna efe a ddwg ei anwiredd.

2Os dyn a gyffwrdd â dim aflan, pa un bynnag ai burgyn bwystfil aflan, ai burgyn anifail aflan, ai burgyn ymlusgiad aflan; er bod y peth yn guddiedig oddi wrtho ef, aflan ac euog yw efe.

3Neu pan gyffyrddo âg aflendid dyn, pa aflendid bynnag iddo, yr hwn y bydd efe aflan o’i blegid, a’r peth yn guddiedig rhagddo; pan gaffo wybod, yna euog yw.

4Neu os dyn a dwng, gan draethu â’r gwefusau ar wneuthur drwg, neu wneuthur da; beth bynnag a draetho dyn trwy lw, a’r peth yn guddiedig rhagddo; pan gaffo efe wybod, euog yw o un o hyn.

5A phan fyddo efe euog o un o hyn; yna cyffesed yr hyn y pechodd ynddo;

6A dyged i’r Arglwydd ei offrwm dros gamwedd am ei bechod yr hwn a bechodd; sef benyw o’r praidd, oen neu fỳn gafr, yn aberth dros bechod; a gwnaed yr offeiriad gymmod drosto am ei bechod.

7Ond os ei law ni chyrhaedd werth oen, dyged i’r Arglwydd, am ei gamwedd yr hwn a bechodd, ddwy durtur, neu ddau gyw colommen; y naill yn aberth dros bechod, a’r llall yn boeth-offrwm.

8A dyged hwynt at yr offeiriad; ac offrymmed efe yr hwn sydd dros bechod yn gyntaf, a thorred ei ben wrth ei wegil; ond na thorred ef ymaith.

9A thaenelled o waed yr aberth dros bechod ar ystlys yr allor; a gwasger y rhan arall o’r gwaed wrth waelod yr allor. Dyma aberth dros bechod.

10A’r ail a wna efe yn offrwm poeth, yn ol y ddefod: a’r offeiriad a wna gymmod drosto am ei bechod yr hwn a bechodd; a maddeuir iddo.

11¶ Ac os ei law ni chyrhaedd ddwy durtur, neu ddau gyw colommen; yna dyged yr hwn a bechodd ei offrwm o ddegfed ran ephah o beilliaid yn aberth dros bechod: na osoded olew ynddo, ac na rodded thus arno; canys aberth dros bechod yw.

12A dyged hynny at yr offeiriad: a chymmered yr offeiriad o hono lonaid ei law yn goffad­wriaeth, a llosged ar yr allor, fel ebyrth tanllyd i’r Arglwydd. Dyma aberth dros bechod.

13A gwnaed yr offeiriad gymmod drosto ef am ei bechod a bechodd efe yn un o’r rhai hyn, a maddeuir iddo: a bydded i’r offeiriad y gweddill, megis o’r bwyd-offrwm.

14¶ A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

15Os gwna dyn gamwedd, a phechu trwy amry­fusedd, yn y pethau a gysseg­rwyd i’r Arglwydd; yna dyged i’r Arglwydd dros ei gamwedd, hwrdd perffeith-gwbl o’r praidd, gyd â’th bris di o siclau arian, yn ol sicl y cyssegr, yn aberth dros gamwedd.

16A thaled am y niwed a wnaeth yn y peth cysseg­redig, a rhodded ei bummed ran yn ychwaneg atto, a rhodded ef at yr offeiriad: a gwnaed yr offeiriad gymmod drosto â hwrdd yr offrwm dros gamwedd; a maddeuir iddo.

17¶ Ac os pecha enaid, a gwneuthur yn erbyn gorchy­mynion yr Arglwydd, ddim o’r hyn ni ddylid eu gwneuthur; er na wyddai, etto euog fydd, a’i anwiredd a ddwg.

18A dyged hwrdd perffeith-gwbl o’r praidd, gyd â’th bris di, at yr offeiriad, yn offrwm dros gamwedd: a gwnaed yr offeiriad gymmod drosto am ei amry­fusedd a gam­gymmerodd efe, ac yntau heb wybod; a maddeuir iddo.

19Aberth dros gamwedd yw hyn: camwedd a wnaeth yn ddïau yn erbyn yr Arglwydd.

← Llyfr Lefiticus 4Read In The App, Free →Llyfr Lefiticus 6 →

Study Llyfr Lefiticus 5

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627