Llyfr Lefiticus 7:18
Ac os bwyttêir dim o gig offrwm ei ebyrth hedd ef o fewn y trydydd dydd, ni byddir boddlawn i’r hwn a’i hoffrymmo ef, ac nis cyfrifir iddo, ffieiddbeth fydd: a’r dyn a fwytty o hono, a ddwg ei anwiredd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
17Ond yr hyn a fyddo o gig yr aberth yn weddill y trydydd dydd, llosger yn tân.
Cross References
Leviticus 5:17¶ Ac os pecha enaid, a gwneuthur yn erbyn gorchymynion yr Arglwydd, ddim o’r hyn ni ddylid eu gwneuthur; er na wyddai, etto euog fydd, a’i anwiredd a ddwg.
Leviticus 10:19A dywedodd Aaron wrth Moses, Wele, heddyw yr offrymmasant eu haberth dros bechod, a’u poethoffrwm, ger bron yr Arglwydd; ac fel hyn y digwyddodd i mi; am hynny os bwyttawn aberth dros bechod heddyw, a fyddai hynny dda yng ngolwg yr Arglwydd?
Leviticus 11:41A phob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear, fydd ffieidd-dra: na fwyttâer ef.
Leviticus 19:5¶ A phan aberthoch hedd-aberth i’r Arglwydd, yn ol eich ewyllys eich hun yr aberthwch hynny.
Leviticus 20:17A’r gwr a gymmero ei chwaer, merch ei dad, neu ferch ei fam, ac a welo ei noethni hi, ac y gwelo hithau ei noethni yntau: gwaradwydd yw hynny; torrer hwythau ymaith y’ngolwg meibion eu pobl: noethni ei chwaer a noethodd efe; efe a ddwg ei anwiredd.
Leviticus 22:16Ac na wnant iddynt ddwyn cosp camwedd, pan fwyttaont eu cyssegredig bethau hwynt: o herwydd myfi yw yr Arglwydd eu sancteiddydd.