Llyfr Lefiticus 7
1Rhan yr offeiriad o’r aberthau hedd. Dyma hefyd gyfraith yr offrwm dros gamwedd: sancteiddiolaf yw.
2Yn y man lle y lladdant y poeth-offrwm, y lladdant yr aberth dros gamwedd; a’i waed a daenella efe ar yr allor o amgylch.
3A’i holl wêr a offrymma efe o hono; y gloren hefyd, a’r weren fol.
4A’r ddwy aren, a’r gwêr fyddo arnynt hyd y tenewyn, a’r rhwyden oddi ar yr afu, ynghyd â’r arennau, a dỳn efe ymaith.
5A llosged yr offeiriad hwynt ar yr allor, yn aberth tanllyd i’r Arglwydd: aberth dros gamwedd yw.
6Pob gwrryw ym mysg yr offeiriaid a’i bwytty: yn y lle sanctaidd y bwyttêir ef: sancteiddiolaf yw.
7Fel y mae yr aberth dros bechod, felly y bydd yr aberth dros gamwedd; un gyfraith sydd iddynt: yr offeiriad, yr hwn a wna gymmod âg ef, a’i pïau.
8A’r offeiriad a offrymmo boeth-offrwm neb, yr offeiriad a gaiff iddo ei hun groen y poeth-offrwm a offrymmodd efe.
9A phob bwyd-offrwm a graser mewn ffwrn, a’r hyn oll a wneler mewn padell, neu ar radell, fydd eiddo’r offeiriad a’i hoffrymmo.
10A phob bwyd-offrwm wedi ei gymmysgu trwy olew, neu yn sych, a fydd i holl feibion Aaron, bob un fel ei gilydd.
11Dyma hefyd gyfraith yr ebyrth hedd a offrymma efe i’r Arglwydd.
12Os yn lle dïolch yr offrymma efe hyn; offrymmed gyd â’r aberth dïolch deisennau croyw, wedi eu cymmysgu trwy olew; ac afrllad croyw, wedi eu hiro âg olew; a pheilliaid wedi ei grasu yn deisennau, wedi eu cymmysgu âg olew.
13Heb law y teisennau, offrymmed fara lefeinllyd, yn ei offrwm, gyd â’i hedd-aberth o ddïolch.
14Ac offrymmed o hyn un dorth o’r holl offrwm, yn offrwm dyrchafael i’r Arglwydd; a bydded hwnnw eiddo’r offeiriad a daenello waed yr ebyrth hedd.
15A chig ei hedd-aberth o ddïolch a fwyttêir y dydd yr offrymmir ef: na adawer dim o hono hyd y bore.
16Ond os adduned, neu offrwm gwirfodd, fydd aberth ei offrwm ef, y dydd yr offrymmo efe ei aberth, bwyttâer ef: a thrannoeth bwyttâer yr hyn fyddo yn weddill o hono.
17Ond yr hyn a fyddo o gig yr aberth yn weddill y trydydd dydd, llosger yn tân.
18Ac os bwyttêir dim o gig offrwm ei ebyrth hedd ef o fewn y trydydd dydd, ni byddir boddlawn i’r hwn a’i hoffrymmo ef, ac nis cyfrifir iddo, ffieiddbeth fydd: a’r dyn a fwytty o hono, a ddwg ei anwiredd.
19A’r cig a gyffyrddo â dim aflan, ni fwyttêir, mewn tân y llosgir ef: a’r cig arall, pob glân a fwytty o hono.
20A’r dyn a fwyttao gig yr hedd-aberth, yr hwn a berthyn i’r Arglwydd, a’i aflendid arno; torrir ymaith y dyn hwnnw o fysg ei bobl.
21Ac os dyn a gyffwrdd â dim aflan, sef âg aflendid dyn, neu âg anifail aflan, neu âg un ffieiddbeth aflan, a bwytta o gig yr hedd-aberth, yr hwn a berthyn i’r Arglwydd; yna y torrir ymaith y dyn hwnnw o fysg ei bobl.
22¶ Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,
23Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Na fwyttêwch ddim gwer eidion, neu ddafad, neu afr.
24Etto gwer burgyn, neu wer ysglyfaeth, a ellir ei weithio mewn pob gwaith, ond gan fwytta na fwyttêwch ef.
25O herwydd pwy bynnag a fwyttao wer yr anifail, o’r hwn yr offrymmir aberth tanllyd i’r Arglwydd; torrir ymaith yr enaid a’i bwyttao o fysg ei bobl.
26Na fwyttêwch chwaith ddim gwaed o fewn eich cyfanneddau, o’r eiddo aderyn, nac o’r eiddo anifail.
27Pob enaid a fwyttao ddim gwaed, torrir ymaith yr enaid hwnnw o fysg ei bobl.
28¶ A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,
29Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Y neb a offrymmo ei aberth hedd i’r Arglwydd, dyged ei rodd o’i aberth hedd i’r Arglwydd.
30Ei ddwylo a ddygant ebyrth tanllyd yr Arglwydd; y gwer ynghyd â’r barwyden a ddwg efe; y barwyden fydd i’w chyhwfanu, yn offrwm cyhwfan ger bron yr Arglwydd.
31A llosged yr offeiriad y gwer ar yr allor: a bydded y barwyden i Aaron ac i’w feibion.
32Rhoddwch hefyd y balfais ddehau yn offrwm dyrchafael i’r offeiriad, o’ch ebyrth hedd.
33Yr hwn o feibion Aaron a offrymmo waed yr ebyrth hedd, a’r gwer; bydded iddo ef yr ysgwyddog ddehau yn rhan.
34O herwydd parwyden y cyhwfan, ac ysgwyddog y dyrchafael, a gymmerais i gan feibion Israel o’u hebyrth hedd, ac a’u rhoddais hwynt i Aaron yr offeiriad, ac i’w feibion, trwy ddeddf dragywyddol oddi wrth feibion Israel.
35¶ Hyn yw rhan enneiniad Aaron ac enneiniad ei feibion, o ebyrth tanllyd yr Arglwydd, yn y dydd y nesaodd efe hwynt i offeiriadu i’r Arglwydd;
36Yr hwn a orchymynnodd yr Arglwydd ei roddi iddynt, y dydd yr enneiniodd efe hwynt allan o feibion Israel, trwy ddeddf dragywyddol, trwy eu cenhedlaethau.
37Dyma gyfraith y poeth-offrwm, y bwyd-offrwm, a’r aberth dros bechod, a’r aberth dros gamwedd, a’r cyssegriadau, a’r aberth hedd;
38Yr hon a orchymynnodd yr Arglwydd wrth Moses ym mynydd Sinai, yn y dydd y gorchymynnodd efe i feibion Israel offrymmu eu hoffrymmau i’r Arglwydd, yn anialwch Sinai.