Llyfr Lefiticus 8:7
Ac efe a roddes am dano ef y bais, ac a’i gwregysodd ef â’r gwregys, ac a wisgodd y fantell am dano, ac a roddes yr ephod am dano, ac a’i gwregysodd â gwregys cywraint yr ephod, ac a’i cauodd am dano ef.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
6A Moses a ddug Aaron a’i feibion, ac a’u golchodd hwynt â dwfr.
8Ac efe a osododd y ddwyfronneg arno, ac a roddes yr Urim a’r Thummim yn y ddwyfronneg.
Cross References
Exodus 28:4A dyma y gwisgoedd a wnant. Dwyfronneg, ac ephod, mantell hefyd, a phais o waith edau a nodwydd, meitr, a gwregys: felly y gwnant wisgoedd sanctaidd i Aaron dy frawd, ac i’w feibion, i offeiriadu i mi.
Exodus 39:1Moses yn golygu y cwbl, ac yn eu bendithio. Ac o’r sidan glas, a’r porphor, a’r ysgarlad, y gwnaethant wisgoedd gweinidogaeth, i weini yn y cyssegr: gwnaethant y gwisgoedd sanctaidd i Aaron; fel y gorchymynasai’r Arglwydd wrth Moses.
Isaiah 61:10Gan lawenychu y llawenychaf yn yr ARGLWYDD, fy enaid a orfoledda yn fy NUW: canys gwisgodd fi a gwisgoedd iachawdwriaeth, gwisgodd â mantell cyfiawnder; megis y mae priodfab yn ymwisgo a harddwisg, ac fel yr ymdrwsia priodferch a’i thiysau. º
Romans 13:14Eithr gwisgwch amdanoch yr Ar¬glwydd Iesu Grist; ac na wnewch ragddarbod dros y cnawd, er mwyn cyflawni ei chwantau ef.