The Bible Software
Llyfr Lefiticus · Beibl (1620)

Llyfr Lefiticus 8

1Y lle a’r amser y cyssegrid hwynt. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

2Cymmer Aaron a’i feibion gyd âg ef, a’r gwisgoedd, ac olew yr enneiniad, a bustach yr aberth dros bechod, a dau hwrdd, a chawell y bara croyw:

3A chasgl yr holl gynnu­lleidfa ynghyd i ddrws pabell y cyfarfod.

4A gwnaeth Moses fel y gorchy­mynnodd yr Arglwydd iddo: a chasglwyd y gynnu­lleidfa i ddrws pabell y cyfarfod.

5A dywedodd Moses wrth y gynnu­lleidfa, Dyma y peth a orchy­mynnodd yr Arglwydd ei wneuthur.

6A Moses a ddug Aaron a’i feibion, ac a’u golchodd hwynt â dwfr.

7Ac efe a roddes am dano ef y bais, ac a’i gwre­gysodd ef â’r gwregys, ac a wisgodd y fantell am dano, ac a roddes yr ephod am dano, ac a’i gwre­gysodd â gwregys cywraint yr ephod, ac a’i cauodd am dano ef.

8Ac efe a osododd y ddwy­fronneg arno, ac a roddes yr Urim a’r Thummim yn y ddwy­fronneg.

9Ac efe a osododd y meitr ar ei ben ef; ac a osododd ar y meitr ar ei dalcen ef, y dalaith aur, y goron sanctaidd; fel y gorchy­mynasai yr Arglwydd i Moses.

10A Moses a gymmerodd olew yr enneiniad, ac a ennein­iodd y tabernacl, a’r hyn oll oedd ynddo; ac a’u cysseg­rodd hwynt.

11Ac a daenellodd o hono ar yr allor saith waith, ac a ennein­iodd yr allor a’i holl lestri, a’r noe hefyd a’i throed, i’w cyssegru.

12Ac efe a dywalltodd o olew yr enneiniad ar ben Aaron, ac a’i hennein­iodd ef, i’w gyssegru.

13A Moses a ddug feibion Aaron, ac a wisgodd beisiau am danynt, a gwre­gysodd hwynt â gwregysau, ac a osododd gapiau am eu pennau; fel y gorchy­mynasai’r Arglwydd wrth Moses.

14Ac efe a ddug fustach yr aberth dros bechod: ac Aaron a’i feibion a roddasant eu dwylaw ar ben bustach yr aberth dros bechod;

15Ac efe a’i lladdodd: a Moses a gymmerth y gwaed, ac a’i rhoddes ar gyrn yr allor o amgylch â’i fys, ac a burodd yr allor; ac a dywall­todd y gwaed wrth waelod yr allor, ac a’i cysseg­rodd hi, i wneuthur cymmod arni.

16Efe a gymmerodd hefyd yr holl wer oedd ar y perfedd, a’r rhwyden oddi ar yr afu, a’r ddwy aren a’u gwer; a Moses a’ i llosgodd ar yr allor.

17A’r bustach, a’i groen, a’i gig, a’i fiswail, a losgodd efe mewn tân o’r tu allan i’r gwersyll: fel y gorchy­mynasai yr Arglwydd wrth Moses.

18¶ Ac efe a ddug hwrdd y poeth-offrwm: ac Aaron a’i feibion a osodasant eu dwylaw ar ben yr hwrdd:

19Ac efe a’i lladdodd; a Moses a dae­nellodd y gwaed ar yr allor o amgylch.

20Ac efe a dorrodd yr hwrdd yn ei ddarnau; a llosgodd Moses y pen, y darnau, a’r gwer.

21Ond y perfedd a’r traed a olchodd efe mewn dwfr; a llosgodd Moses, yr hwrdd oll ar yr allor. Poeth-offrwm yw hwn, i fod yn arogl peraidd ac yn aberth tanllyd i’r Arglwydd; fel y gorchy­mynnodd yr Arglwydd i Moses.

22¶ Ac efe a ddug yr ail hwrdd, sef hwrdd y cys­segriad: ac Aaron a’i feibion a osodasant eu dwylaw ar ben yr hwrdd.

23Ac efe a’i lladdodd; a Moses a gymmerodd o’i waed, ac a’i rhoddes ar gwrr isaf clust ddehau Aaron, ac ar fawd ei law ddehau, ac ar fawd ei droed dehau.

24Ac efe a ddug feibion Aaron: a Moses a roes o’r gwaed ar gwrr isaf eu clust ddehau, ac ar fawd eu llaw ddehau, ac ar fawd eu troed dehau; a thae­nellodd Moses y gwaed ar yr allor oddi amgylch.

25Ac efe a gymmerodd hefyd y gwer, a’r gloren, a’r holl wer oedd ar y perfedd, a’r rhwyden oddi ar yr afu, a’r ddwy aren a’u brasder, a’r ysgwyddog ddehau.

26A chymmerodd o gawell y bara croyw, yr hwn oedd ger bron yr Arglwydd, un deisen groyw, ac un deisen o fara olewedig, ac un afrlladen; ac a’u gosododd ar y gwer, ac ar yr ysgwyddog ddehau:

27Ac a roddes y cwbl ar ddwylaw Aaron, ac ar ddwylaw ei feibion, ac a’u cyhw­fanodd hwynt yn offrwm cyhwfan ger bron yr Arglwydd.

28A Moses a’u cymmerth oddi ar eu dwylaw hwynt, ac a’u llosgodd ar yr allor, ar yr offrwm poeth. Dyma gysseg­riadau o arogl peraidd: dyma aberth tanllyd i’r Arglwydd.

29Cymmerodd Moses y barwyden hefyd, ac a’i cyhw­fanodd yn offrwm cyhwfan ger bron yr Arglwydd: rhan Moses o hwrdd y cysseg­riad oedd hi; fel y gorchy­mynasai yr Arglwydd wrth Moses.

30A chymmerodd Moses o olew yr enneiniad, ac o’r gwaed oedd ar yr allor, ac a’i tae­nellodd ar Aaron, ar ei wisgoedd, ar ei feibion hefyd, ac ar wisgoedd ei feibion ynghyd âg ef: ac efe a gysseg­rodd Aaron, a’i wisgoedd, a’i feibion hefyd, a gwisgoedd ei feibion ynghyd âg ef.

31¶ A dywedodd Moses wrth Aaron, ac wrth ei feibion, Berwch y cig wrth ddrws pabell y cyfarfod: ac yno bwyttêwch ef, a’r bara hefyd sydd y’nghawell y cysseg­riadau; megis y gorchy­mynais, gan ddywedyd, Aaron a’i feibion a’i bwytty ef.

32A’r gweddill o’r cig, ac o’r bara, a losgwch yn tân.

33Ac nac ewch dros saith niwrnod allan o ddrws pabell y cyfarfod, hyd y dydd y cyflawner dyddiau eich cysseg­riadau: o herwydd saith niwrnod y bydd efe yn eich cyssegru chwi.

34Megis y gwnaeth efe heddyw, y gorchy­mynodd yr Arglwydd wneuthur, i wneuthur cymmod drosoch.

35Ac arhoswch wrth ddrws pabell y cyfarfod saith niwrnod, ddydd a nos, a chedwch wyliad­wriaeth yr Arglwydd, fel na byddoch feirw: canys fel hyn y’m gorchy­mynwyd.

36A gwnaeth Aaron a’i feibion yr holl bethau a orchy­mynodd yr Arglwydd trwy law Moses.

← Llyfr Lefiticus 7Read In The App, Free →Llyfr Lefiticus 9 →

Study Llyfr Lefiticus 8

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627